Main content

Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru 2 i ddarlledu bob bore'r wythnos o 29 Ionawr 2018

Newyddion

Bydd Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru 2 yn darlledu o flwyddyn nesaf ymlaen - gyda'r rhaglen gyntaf yn darlledu'n fyw ddydd Llun, 29ain Ionawr. Yn dilyn hynny, bydd sioe frecwast ar yr awyr saith bore'r wythnos ar Radio Cymru 2 a hynny ar DAB, y wefan, Βι¶ΉΤΌΕΔ iPlayer Radio a theledu.

Dywed Betsan Powys, Golygydd Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru: "Mae Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru 2 yn rhoi cyfle i ni ddathlu'r ffaith nad yw pob gwrandawr yn gwirioni 'run fath. Y cynnig fydd sioe frecwast hwyliog, llawn cerddoriaeth, cwmni a chwerthin bob bore'r wythnos i'r rhai sydd eisiau hynny. Ac i'r rhai sydd ddim, ac sy'n mwynhau ac yn gwerthfawrogi'r rhaglenni newyddion ar Radio Cymru, fydd 'na ddim newid.

"Bydd ambell lais yn gyfarwydd iawn, ambell un yn llai cyfarwydd ac ambell lais yn trio rhywbeth newydd - a nod pawb fydd eich darbwyllo chi i droi bob bore at griw Radio Cymru 2 dros frecwast."

Disgwylir cyhoeddiad pellach am gyflwynwyr yr orsaf dros yr wythnosau nesaf. Ni fydd newid i amserlen Radio Cymru ar FM a DAB.

Mewn araith yng Nghanolfan Pontio, Bangor nos Lun (Tachwedd 27ain), dywedodd Cyfarwyddwr Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru, Rhodri Talfan Davies, fod datblygiad Radio Cymru 2 yn rhan o ehangu digynsail o wasanaethau Cymraeg i ymateb i anghenion y gynulleidfa sy'n newid yn barhaus.

"Dyma gyfnod o arloesi ac arbrofi, wedi ei danio gan gynulleidfaoedd sy'n newid yn ogystal â chwyldro technolegol.

"Dros gyfnod o dair blynedd, mae Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru Fyw wedi dod yn ganllaw hanfodol i Gymru i fwy na 50,000 o bobl bob wythnos; mae Βι¶ΉΤΌΕΔ iPlayer wedi trawsffurfio sut mae modd gweld cynnwys ar draws Cymru; mae cyfres S4C Hansh yn torri drwy'r cyfryngau cymdeithasol fel erioed o'r blaen a rwan mae Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru yn lansio ail wasanaeth digidol i gynnig dewis clir i wrandawyr.

"Mae'r newidiadau yn digwydd ar gyflymdra anhygoel. Ac mae'n rhaid i ni fynd ymhellach. Y nod yw sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cyrraedd pob cornel o'r tirwedd cyfryngol newydd - yr iaith ar daith."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Effeithiau gor ymarfer mewn pel-droed