Main content

Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: 15 Hydref 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Dan Yr Wyneb - Alzheimers

cerddor - musician
Corneli Cudd - Secret Corners
sbarduno'r cof - to jog the memory
alaw - tune
pobol alluog - clever people
diwylliedig - cultured
rhwygo - to tear
cyflwr - condition
moesol - moral
cyfansoddi - to compose

"... mae hi'n wir yntydy, bod helpu eraill yn medru gwneud lles i chi eich hun. Dyna oedd profiad Manon Llwyd wrth iddi weithio ar brosiect arbennig yng Nghartref Plas Hedd, Bangor. Cerddor ydy Manon ac mae hi'n defnyddio cerddoriaeth i helpu pobl sy'n diodde o Alzheimers. Corneli Cudd ydy enw'r prosiect ac mae o'n enw da hefyd. Fel y clywon ni ar Dan yr Wyneb ddydd Llun, mae Manon yn defnyddio cerddoriaeth i gyrraedd corneli bach yng nghof pobl oedd yn cofio fawr ddim am eu gorffennol."


Geraint Lloyd - Trombôn

cystadleuaeth - competition
gwybodus - knowledgable
ffurfio - to form
traddodiad - tradition
offerynau pres - brass instruments
syrffed - boredom
dyfalbarhau - to persevere
tueddu i - tends to
mynd o'i le - to go wrong

...ac y profiad o weithio efo criw Plas Hedd yn amlwg wedi cael effaith ar Manon. Cerddor ydy Iwan Williams hefyd ac mi fuodd o'n siarad efo Geraint Lloyd nos Lun. Er mai o'r gogledd mae o'n dod yn wreiddiol, mae o rwan yn aelod o Fand Tredegar yng Ngwent, ac yn canu'r trombôn efo'r band. Dyma Iwan yn sôn am sut dechreuodd ei ddiddordeb yn y trombôn...


Rhaglen Nia - Cerdded i'r Ysgol

bant - ffwrdd
hewl (heol) - ffordd
blinderus - blinedig (tired)
dychwelyd - to return
gwyddau - geese
clacwydd - gander
creithiau - scars
godro - to milk
cwrso - to chase
hebrwng - to escort

Dyna lwcus i Mr Williams ddod â llond trol o offerynau i ysgol Llanrug ynde? Sgwn i faint o'r plant eraill oedd efo Iwan y diwrnod hwnnw sydd wedi dyfalbarhau ac s'yn canu efo bandiau? Pobl ychydig yn hyn nag Iwan fuodd yn cofio eu dyddiau ysgol efo Trystan ab Ifan ar raglen Nia ddydd Mawrth. Aeth Trystan i Felindre ger Abertawe i gael clywed gan rhai o bobl hyn y pentre sut brofiad oedd cerdded i'r ysgol ers talwm.


Rhaglen Nia - Cwrteisi

diarth (dieithr) - strange (unfamiliar)
ymddwyn - to behave
peri trafferth - to cause problems
anghwrtais - rude
poeri - to spit
canllawiau - guidelines
cerfluniau - sculptures
rhegi - to swear
macyn - hances
o ddifri - serious

"Ia, roedd hynny cyn dyddiad y 'school run ' yndoedd? Ac mae'r ffaith bod rhaid cael "Diwrnod Cenedlaethol Cerdded i'r Ysgol , fel y cafwyd dydd Mercher diwetha yn dweud llawer am sut mae pethau wedi newid! Sgwrs ddifyr arall ar raglen Nia oedd honno efo Gwenda Richards ddydd Mercher. Roedd Gwenda yn arfer cyflwyno rhaglen deithio o'r enw Pacio ar y teledu, ac mae hi wedi teithio'r byd hefyd pan oedd hi'n gweithio i'r rhaglen Y Byd Ar Bedwar. Pwy gwell felly i sôn am sut i fod yn gwrtais wrth ymweld â gwlad dramor. Dyma hi'n sgwrsio efo Nia..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Dangos Y Cerdyn Coch i Hiliaeth