Main content

Pigion i Ddysgwyr - 14 Awst 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

O'r Maes - pinc

yn llygad dy le - absolutely right
ar flaen y gâd - trendsetters ahead of the game??
cwato - cuddio
amrannau - eyelids
ymaelodi - to join
trafod a hyrwyddo - to debate and promote
mewn undeb mae nerth - unity is strength
cyhoeddiadau swmpus - voluminous publications
difrifol iawn - very serious
uchafbwynt diwylliant - cultural highlight

wel, lle arall ynde ond yn yr Eisteddfod Genedlaethol? A podlediad o'r 'Steddfod sy ganddon ni i chi yr wythnos yma. Mi fyddan ni'n cael ychydig o hanes, ychydig o ffasiwn, ychydig o sôn am fwyd ac yn mynd i glywed gan Ddysgwr y Flwyddyn. A dyna i chi'r Eisteddfod yn gryno ynde? Mi ddechreuwn ni efo ffasiwn. Buodd Bethan Mair yn cerdded o gwmpas y maes ddydd Iau ac mi gaeth hi efo Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis am beth roedd dynion yr Eisteddfod yn ei wisgo eleni...

Ìý

Daf a Caryl - Brechdan bacwn

brasder chwadan - duck fat
rhy hallt - too salty
wedi'i fygu - smoked
ysgafnach - lighter
cynnyrch - produce
cynhwysion - ingredients
cyfuniadau - combinations
penfras - cod
popty - oven

Wel dyna i chi sgwrs ddifyr ynde, yn symud o sôn am grysau pinc i drafod pethau difrifol iawn. Doedd yna ddim byd difrifol am y sgwrs gaethon ni ar raglen Daf a Caryl efo'r cogydd enwog Bryn Williams. Roedd Bryn yn cael ei dderbyn i Orsedd y Beirdd yr wythnos hon. Wel mae o wedi hen arfer gwisgo dillad gwyn yntydy o, ond y Wisg Las bydd o'n ei gwisgo yn yr Orsedd. Felly, be dach chi'n ei ofyn i gogydd enwog ar raglen radio o'r Eisteddfod? Be arall ond 'Sut mae gwneud brechdan bacwn?'


Daf a Caryl - Mererid Hopwood

gwirionedd - the truth
gofid - concern
ymryson - a battle (of poets)
beirniad - judge/adjudicator
llifo - to flow
mo'yn - eisiau
y tywyllwch - the dark
mofyn - to fetch
hebrwng - to escort
cleddyf - sword

Dwn i ddim amdanoch chi, ond mae clywed pobl yn siarad am fwyd yn gwneud i mi eisiau bwyta (DUDUWCH ' buta' PLIS) dw i'n medru blasu'r brechdan bacwn yna rwan! Roedd yna siom yn yr Eisteddfod ddydd Gwener gan nad oedd yna gadeirio o gwbl. Mae'r seremoni yma yn aml iawn yn cael ei chyfri yn un o'r rhai pwysica'r wyl. Ond o leia ar raglen Daf a Caryl mi glywon ni gan Mererid Hopwood enillodd y gadair yn Nwy Fil ag un. Fel y cawn ni glywed rwan, doedd hi ddim yn siwr nes iddi godi ar ei thraed yn y pafiliwn mai hi oedd wedi ennill...


O'r Maes - Y goron goll

atal - to withhold
mae'n ymddangos - it appears
ymchwil - research
fferyllydd - chemist
neb yn deilwng - no one worthy
dileu'r arysgrifiad - to delete the inscription
pryddest - a free metre poem
ffugenw - pseudonym
wedi caethiwo - confined
dylanwadol - influential

Druan o'r plentyn bach ynde, gobeithio nad oedd o wedi cael gormod o ofn. Mi arhoswn ni efo hanes rwan, a stori ddiddorol iawn am hanes coron goll Eisteddfod Dinbych Mi Naw Tri Naw. Ifor ap Glyn enillodd y goron yn Nimbych eleni ond yn Eisteddfod 1939 mi gafodd y goron ei hatal, fel digwydodd efo'r gadair eleni. Ond beth ddigwyddodd i'r goron wedyn? Eiflyn Roberts sydd yn dweud yr hanes wrth Rob Nicholls


O'r Maes - Hywel Wyn Edwards

trefnydd - organiser
bwrlwm - buzz
colled - a loss
seiri - carpenters
cyfeillach - friendship
unigryw - unique
tueddu i - to tend to
yn grediniol - convinced
y gwaith caib a rhaw - spade work
y gwmniaeth - the company

Doedd Hywel Wyn Edwards ddim o gwmpas yn 1939, pan ddigwyddodd yr holl helynt, ond bois bach mae o wedi bod yn trefnu'r Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd maith. Mae o'n ymddeol eleni. Be fydd o'n wneud efo'i amser sbâr rwan tybed? Stifyn Parri fuodd yn ei holi ddydd Sadwrn...


Post Cyntaf - Dysgwr y Flwyddyn

ymgartrefu - to
cysylltiad - connection
cyfrifoldeb - responsibility
profiad eitha anghyffredin - quite an unusual experience
Prif Weithredwr - Chief Executive
profiad prin - a rare experience
rhuglder - fluency
cymhelliant personol cryf - strong personal motivation
sefyllfa ieithyddol - linguistic situation
annog - to encourage

Un o'r pethau pwysica ddigwyddodd yn ystod cyfnod Hywel Wyn Edwards fel trefnydd yr Eisteddfod oedd sefydlu cystadlaeth Dysgwr y Flwyddyn. Roedd pedwar cryf iawn wedi cyrraedd y rownd derfynol yn yr Eisteddfod, ac mi gawson ni wybod nos Fercher mai Martyn Croydon oedd yr enillydd. Mae o'n dod o Kiddeminster yn wreiddiol, ac mi ddaeth o i siarad ar y Post Cyntaf fore Iau. Mae martyn erbyn hyn yn diwtor Cymraeg ei hunan ac mi roedd oedd un arall o diwtoriaid Cymraeg yr ardal, Ioan Talfryn, yn y stiwdio hefyd i'w longyfarch.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Llais Pêl-droed ar Radio Cymru