Main content

Pigion i ddysgwyr: Geirfa 02 Mai 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Daf a Caryl - Iwan Rheon
Ìý
comedi sefyllfa - situation comedy
hysbysebu - to advertise
be' yn y byd - what on earth
ymarfer - to rehearse
mor deyrngar - so faithful
anrhydedd - an honour
yn llythrennol - literally
cymeriad - character
dirgelwch - mystery
Ìý
Ìý
"...efo Iwan Rheon, sef ein gwestai arbennig ar raglen Daf a Caryl ddydd Llun. Mae'n bosib eich bod wedi gweld Iwan yn actio yn y rhaglen boblogaidd iawn, ‘Game of Thrones’. Mae o hefyd wedi bod yn ffilmio rhaglen gomedi ar ITV efo Sir Ian McKellen a Sir Derek Jacoby sef ‘Vicious’. Gofynnais i i Iwan pa fath o raglen gomedi oedd hi?"
Ìý
Talwrn - Rhaglen gyntaf
Ìý
cerdd - poem
testun - subject
hwiangerdd - nursery rhyme
nain - mam-gu
wyrion - grandchildren
canu'n swynol - singing sweetly
uwch ei chrud - above her cradle
gwynfyd clyd - cosy bliss
hud - magic
Ìý
Ìý
"ac mi fyddwn ni'n gweld Iwan ar y teledu yn 'Vicious' yn fuan iawn. Pob lwc iddo fo ynde? Roedd hi'n braf gweld bod Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar nosweithiau Sul. Dyma i chi flas o'r rhaglen gynta, gyda Erin Prysor o dîm Ysgol y Berwyn yn darllen ei cherdd ar y testun Hwiangerdd. Un o hwiangerddi mwya enwog y Gymraeg ydy 'Dacw Mam yn dwad' a dyma Erin yn ei cherdd yn disgrifio taith bywyd merch o fod yn blentyn yn gwrando ar ei Mam yn canu 'Dacw Mam yn dwad' , i'r adeg pan mae hi'n Nain ei hunan yn canu'r un gân i'w hwyrion"
Ìý
Taro'r Post - Jason
Ìý
cyn-filwr - ex-soldier
y fyddin - the army
disgwyl chi mas yna - waiting for you out there
afiach - disgusting
iau - younger
dianc - to escape
crio - llefain
fatha dw ni'm be - like nothing on earth
cwffio - ymladd
ail-afael - to re-establish
Ìý
Erin Prysor yn fan'na efo cerdd arbennig iawn i bob mam a nain yn y wlad. Buodd Jason, cyn-filwr o ogledd Cymru, yn sôn ar Taro'r Post ddydd Mawrth fel y basai milwyr weithiau'n crio eisiau mam, yngnghanol yr ymladd fuodd yn digwydd yn rhyfel Iraq. Clywon ni hefyd ar yr effaith gaeth y rhyfel honno ar fywyd Jason a sut aeth o o'i chwmpas hi i newid ei fywyd...
Ìý
Dan yr Wyneb - Operau Sebon
Ìý
cynhyrchydd - producer
her - a challenge
darlledwyr - broadcaster
gofynion - demands
datblygu - to develop
nawdd - financial backing
hanfodol - essential
esgor ar - to lead to
trafod - to discuss
nacau - to negate
Ìý
"Mi fasai stori Jason yn gwneud ffilm dda yn base hi? Stori dda a thrist ond efo diwedd hapus. A thrafod drama oedd Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb ddydd Llun. Mi roedd ganddo fo ddau gynhyrchydd dramau yn gwmni iddo fo - Ynyr Williams, sydd un o gynhyrchwyr Pobol y Cwm a Branwen Cennard sydd wedi cynhyrchu nifer o ddramau Cymraeg. Operau Sebon oedden nhw'n eu trafod ddydd Llun. Faint o her ydy hi i ddarlledwyr gynhyrchu operau sebon y dyddiau hyn tybed?"
Ìý
Daf a Caryl - Mam
Ìý
profi - to test
llithren - slide
dramor - overseas
cyflog - wages
tintws - backside
gwyddonol - scientific
ffrithiant - friction
suddo - to sink
lluchio carreg - to throw a stone
delfrydol - ideal
Ìý
"Braf clywed Branwen Cennard yn fan'na yn dweud ei bod hi'n hoff iawn o Coronation Street, a hithau wedi cynhyrchu cymaint o ddramau da iawn i S4C. Mi ges i gyfle i ddweud stori ddramatig iawn ar Daf a Caryl ddydd Iau. A seren y ddrama bach yma oedd...Mam. Peidiwch â chwerthin gormod plîs - mae gan bawb eu teimladau..."
Ìý
Daf a Caryl - Matthew Gravelle
Ìý
Dros Glawdd Offa - yn Lloegr
cyfres - series
llofrudd - murderer
y seithfed pennod - the seventh episode
saethu - to shoot
awdur - author
Ìý
Ìý
"Mae'n ddrwg gen i Mam...ond mi roedd hi'n stori werth ei dweud yn doedd? Mi ddechreuon ni'r podlediad yma efo actor Cymraeg sydd wedi dod yn enwog yn y byd Saesneg, ac mi wnawn ni orffen y pod efo actor arall sy wedi gwneud enw iddo'i hun dros Glawdd Offa - Matthew Gravelle. Fo oedd ein gwestai arbennig fore Mawrth ar rhaglen Daf a Caryl. Os dach chi wedi bod yn gwylio'r gyfres 'Broadchurch' ar ITV mi fyddwch chi'n gwybod mai Joe Miller, y cymeriad oedd Matthew yn ei chwarae oedd y llofrudd. Dyma glip byr iawn lle mae Matthew yn dweud sut gaeth o wybod mai ei gymeriad o oedd y dyn drwg. Tasech chi'n licio clywed y sgwrs i gyd ewch I wefan Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru a clicio ar rhaglen Dafydd a Caryl...
"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dau dim o Gymru yn Wembley

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 3