Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 21/09/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Tra Bo Dau - Jon Gower a Iolo Williams

y celfyddydau - the arts
dihuno - deffro
yn llythrennol - literally
sŵn enbyd - a terrible noise
cyfnod gwyllt - an wild period
modrwyo - to ring (a bird)
hebog tramor - Peregrine falcon
clogwyn serth - a steep cliff
chwythu ac yn crynu - sweating and shaking
crwtyn - bachgen

...dau hen ffrind yn cofio'r adeg pan oedden nhw'n rhannu tÅ· yn y Drenewydd. Mi fyddwn ni'n clywed lleisiau Jon Gower a Iolo Williams yn aml iawn ar Radio Cymru, ond yn siarad am bethau gwahanol iawn i'w gilydd. Fel arfer dan ni'n clywed Iolo Williams yn siarad am y byd natur ac mae Jon Gower yn sôn am y celfyddydau. Wel, dau ddeg pum mlynedd yn ôl roedd y ddau yn byw yn yr un ty yn y Drenewydd a'r ddau yn gweithio i’r Gymdeithas Gwarchod Adar, yr RSPB. Ar Raglen Tra Bo Dau dydd Llun buodd y ddau yn sgwrsio efo Nia Roberts yn nhafarn Y Grapes Y Drenewydd yn union gyferbyn â‘r ty ym 51 Commercial St, lle roedd y ddau'n arfer byw...

Rhaglen Dylan Jones - Llanfairpwll...

swyddogol - official
ymestyn - to stretch
dipyn o fardd - a bit of a poet
trobyllau - whirlpools
bardd digon sâl - quite a poor poet
parhau - to last
ar lafar - orally
cenhedlaeth - generation
cors - bog
coffrau - coffers

Jon Gower a Iolo Williams yn fan'na ar y rhaglen Tra Bo Dau, yn cofio am yr adeg pan oedden nhw'n rhannu tÅ· yn y Drenewydd. Mae yna ddipyn o sylw wedi bod yr wythnos diwetha i'r pentre bach efo enw mawr, ie Llanfairpwll neu LlanfairPG. Cyflwynydd tywydd Channel 4, Liam Dutton, ddechreuodd pethau drwy ddweud enw llawn y pentref ym mwletin tywydd y sianel. Mi wnaeth Kyle Dennis, sy'n ddyn tywydd ar sianel WCBD News 2, ymuno yn yr hwyl a thrio ei orau i ddweud yr enw hir i gynulleidfa o America. Ond faint ohonoch chi sy'n gwybod be ydy ystyr yr enw? Dyma Gerwyn James sy'n hanesydd lleol ac yn byw ym Mhorthaethwy, neu'r Borth, y dre agosa at Lanfairpwll yn esbonio ychydig am yr enw ar raglen Dylan Jones...

Bore Cothi - Road Dahl

o dras Norwyaidd - a Norwegian background
cymharol ifanc - comparatively young
eglwys gadeiriol - cathedral
yn grwt - yn fachgen bach
elfennau - elements
anghyfiawnder - injustice
caredigrwydd - kindness
cerflun - a statue
diwylliant - culture
Llychlynwyr - Vikings

...a dyna ychydig o hanes enw llawn pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn ar raglen Dylan Jones ddydd Mercher diwetha. Wyddoch chi fod miliynau ar draws y byd wedi gweld y ddau gyflwynydd tywydd yn dweud yr enw llawn? Hanes Roald Dahl sydd ganddon ni nesa, ac yn arbennig felly hanes yr amser buodd o'n byw yng Nghaerdydd fel bachgen ifanc. Yr hanesydd Dr Elin Jones buodd yn sôn amdano wrth Shan Cothi. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Ian Cottrell a gwesteion - Boomshakaboomtang

cyfarwydd - familiar
treiddio'n ddyfnach - to delve deeper
cynnyrch cerddorol - musical product
cyfaddefiad - admission
chwedlonol - mythical
llogi - to hire
agwedd - attitude
disgyblion - pupils
daearyddol - geographically
cyfoedion - peers

Ychydig o hanes bywyd cynnar Roald Dahl yng Nghaedydd yn fan'na ar raglen Bore Cothi. A dan ni'n mynd i aros yng Nghaerdydd am yr eitem ola. Sgwrs am y sîn roc Gymraeg yng Nghaerdydd gaethon ni ar raglen arbennig gan Ian Cottrell. Boomshakaboomtang oedd enw'r rhaglen, sef enw un o albyms y band o Gaerdydd Hanner Pei. Mae Ian yn cael cwmni criw o gerddorion Cymraeg o’r brifddinas dros beint yng Nghlwb Ifor Bach i sôn am sut mae'r sîn wedi datblygu ers amser y seren roc eiconig o'r ddinas, Geraint Jarman...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Casnewydd a Merthyr