Main content

Lansio ail amserlen i Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru

Newyddion

Mae Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru heddiw wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno ail amserlen yn y Gymraeg fydd yn darlledu yn ystod oriau brig y bore.

Bydd Radio Cymru 2 ar gael i wrandawyr ar DAB a Βι¶ΉΤΌΕΔ iPlayer o 07:00 ymlaen, gan ddarparu dewis o wrando i siaradwyr Cymraeg wrth ddeffro’n y bore.

Daw'r cyhoeddiadau yn sgîl buddsoddiad ychwanegol o £8.5m i Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru, gyhoeddwyd ym mis Chwefror.

Bydd y sioe frecwast newydd ar Radio Cymru 2 yn cynnig adloniant a cherddoriaeth i wrandawyr, tra bydd arlwy newyddion a materion cyfoes Radio Cymru yn parhau.

Y llynedd, cafwyd arbrawf ddeuddeg wythnos - - a welodd nifer o gyflwynwyr gan gynnwys Caryl Parry Jones, Lisa Angharad a Carl ac Alun yn darparu sioe frecwast fywiog.

Fe ddangosodd yr adolygiad a'r ymchwil ymysg y gynulleidfa - wnaed yn sgîl yr arbrawf - fod galw am raglenni amgen ac yn dilyn buddsoddiad ychwanegol i Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru, fe fydd Radio Cymru 2 i’w chlywed ar y tonfeddi digidol ar y cyd â'r gwasanaeth cyfredol.

Dywed Betsan Powys, Golygydd Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru;
"Does dim dwywaith fod hwn yn un o’r datblygiadau mwyaf hanesyddol a phwysig yn natblygiad yr orsaf ers ei sefydlu ym 1977. Mae gwrandawyr Radio Cymru gyda'r gwrandawyr radio mwya’ ffyddlon yng Nghymru ac mae gallu cynnig dewis iddyn nhw ac i wrandawyr newydd yn hynod gyffrous."

Dros y misoedd nesaf, bydd tîm golygyddol Radio Cymru yn mynd ati i ddatblygu’r rhaglen fore gyda’r bwriad o’i lansio cyn diwedd y flwyddyn.

Ar gael drwy Gymru gyfan, bydd modd gwrando ar Radio Cymru 2 drwy’r wefan, ar ap Βι¶ΉΤΌΕΔ iPlayer Radio ac fel dewis arall ar radio digidol DAB (yn ddibynnol ar gytundeb masnachol gyda’r darparwyr DAB perthnasol dros y misoedd nesaf) a hefyd ar lwyfannau teledu.

Bydd amserlen Radio Cymru yn aros fel ag y mae ar FM ac ar DAB.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf