Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 21 Ionawr 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Y Cymoedd - Sion Owen

cyfres - series
y cymoedd - the valleys
cyflwyno - to introduce/to present
awdur a bardd - author and poet
cerddi - poems
straeon byrion - short stories
dylanwad - influence
cysgod - shadow
iaith yr aelwyd - language of the home
cawl o ieithoedd - a mish-mash of languages

"...Y Cymoedd, cyfres newydd sy'n holi pa fath o bobl sy'n byw yng nghymoedd y de. Oedd y stereoteip a welwyd mewn rhaglenni fel ‘The Valleys' ar MTV yn eitha agos ati hi tybed? Magi Dodd sy'n cyflwyno'r gyfres ac yn y clip nesa 'ma mae hi'n sgwrsio efo'r bardd ac awdur Sion Owen o'r Rhondda Fawr. Ar ôl ei glywed yn darllen un o'i gerddi, dyma Magi'n dechrau holi hanes ei deulu o. Rwan dyna i chi be ydy stereoteip Cymraeg ynde? "


Taro'r Post - Cancr y fron

lladd ei hunan - to commit siucide
dioddef rhagor - suffering any longer
cancr y fron - breast cancer
wedi cael ei drin - has been treated
gwatsiad - edrych ar
yn fy marn i - in my opinion
cyffuriau - drugs
mae'n dibynnu - it depends

"Cawl o ieithoedd ac acenion meddai Magi yn fan'na. Ond efo mam Sion yn dod o Ddeiniolen ger Llanberis, mi fasai'n gawl blasus iawn yn basai? Ac mi wnawn ni aros yn y gogledd efo'r clip nesa ddaeth o raglen Taro'r Post ddydd Mawrth diwetha. Os dach chi'n gwylio Coronation Street mi wyddoch bod un o'r cymeriadau, Hayley, yn diodde o gancr ac ei bod hi wedi penderfynu lladd ei hunan yn hytrach na diodde rhagor. Dyma Nicola Williams sy'n derbyn triniaeth am gancr y fron ar hyn o bryd yn rhoi ei barn hi ar y stori..."


John Hardy - mabwysiadu

mabwysiadu - to adopt
cynllun - a plan
sefyllfa anodd - difficult situation
cefndiroedd ethnig - ethnic backgrounds
cwrdd â - to meet with
trefnu - to organise
ymwybodol - aware
rhagfarn - prejudice
ymwybyddiaeth - awareness
yn ddadleuol iawn - very controversial

"Awn ni at raglen go wahanol rwan 'Finding Mum and Dad'. Rhaglen yn edrych ar fabwysiadu oedd hon ac mi roedd hi ar y teledu nos Fercher diwetha. Ond nid mabwysiadu yn y ffordd arferol oedd hyn, ond mabwysiadu drwy gynnal parti! Sut mae hyn yn gweithio tybed ac ydy'r plant yn cael chwarae teg? Buodd y cynhyrchydd teledu Amanda Rees yn sgwrsio am y rhaglen efo John Hardy ddydd Mawrth diwetha. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."


Heledd Cynwal - Menna Lloyd

gemydd - jeweller
cyfarwyddwr - director
deintyddiaeth - dentistry
creadigol - creative
os na wnelen i - os na faswn i'n gwneud
datblygu casgliadau - to develop collections
gemwaith - jewellery
Hen Aifft - Ancient Egypt
yn groten fach - yn ferch fach
dwy yrfa - two careersÌý

"Amanda Rees yn fan'na'n sgwrsio efo John Hardy. Mi glywon ni sgwrs ddifyr iawn ar raglen Heledd Cynwal ddydd Mercher. Menna Lloyd oedd ei gwestai, ac roedd Menna'n arfer gweithio fel deintydd, ond erbyn hyn mae hi'n gwneud gwaith gwahanol iawn - fel gemydd. Be wnaeth iddi hi benderfynu newid cwrs ei bywyd? Dyma hi'n esbonio wrth Heledd..."


Y Talwrn - carol

llenwad aur - gold filling
cyfres - series
traddodiadol - traditional
cyfansoddi - to compose

Difyr de? Ella mai rhoi llenwad aur i'w chleifion roddodd y syniad iddi ddod yn emydd! Mi ddechreuon ni'r podlediad hwn efo bardd, a dan ni'n mynd i orffen efo beirdd y Talwrn. Mae cyfres newydd o'r Talwrn wedi dechrau, a'r wythnos diwetha tîm Crannog oedd yn cystadlu yn erbyn tîm Glannau Teifi. Falle eich bod wedi clywed carol blygain yn cael ei chanu dros y Nadolig. Carolau traddodiadol Cymraeg ydy rhain ac yn y clip yma mi gawn ni glywed Dewi Pws yn canu carol blygain oedd wedi cael ei chyfansoddi gan Hywel Rees.

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Hanner tymor Uwch Gynghrair Cymru

Nesaf

Carfan Academiau Cymru a Cwpan Lloegr