Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Mai 20, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ìý

Bwrw Golwg - Cymorth CristnogolÌý

gwirfoddol - voluntary
Cymorth Cristnogol - Christian Aid
gwrthwynebu anghyfiawnder - to stand up to injustice
amlenni - envelopes
anos - mwy anodd
ymateb - response
rheidrwydd - obligation
y to ifanc - the younger generation
amau - doubt
rhwygo - to tear

...sgwrs rhwng John Roberts a Luned Williams o Ddolgellau, a Catrin Williams o Lanfairfechan. Roedd hi'n wythnos Cymorth Cristnogol yr wythnos diwetha a dw i'n siwr eich bod wedi derbyn yr amlen fach goch drwy'r drws. Buodd Luned a Catrin yn gweithio'n wirfoddol yn ystod yr wythnos yn casglu arian i'r elusen. Sut ymateb gaethon nhw tybed? Dyma'r ddwy yn dweud ychydig am eu profiad...

Ìý

Cofio - Ffatri LaethÌý

Ffatri laeth - Milk factory
dau led cae - two fields away
sylwebydd amaethyddol - agricultural comment
gaffeiliad - a godsend
gweithgaredd - activity
cynnyrch - produce
perchen ar - to own
ffynnon - well
bywoliaeth - livelyhood
colled aruthrol - a huge loss

Clip yn fan'na o raglen 'Bwrw Golwg' dydd Sul diwetha efo Luned a Catrin Williams yn sôn am eu profiadau yn casglu arian i Gymorth Cristnogol. Awn ni draw i Geredigion am y clip nesa sydd yn dod o raglen 'Cofio' nos fawrth diwetha. Lyn Ebenezer fuodd yn sgwrsio efo Lloyd Jones am hen ffatri laeth Pont Llanio yng Ngheredigion. Pentre bach ydy Pont Llanio, ond mi roedd llawer iawn o bobl yn gweithio yn y ffatri laeth, ac ar un adeg roedd gan y ffatri ei orsaf drên ei hunan. Cafodd y ffatri ei chau ym Mil Naw Saith Deg, ond mae Lloyd Jones yn cofio hanesion y lle fel tasen nhw wedi digwydd ddoe...

Ìý

Post Cyntaf - NyrsysÌý

arbenigol - specialist
claf - patient (hospital)
cyfrifoldebau - responsibilities
pres - arian
i ba raddau? - to what extent?
braint - a privilege
dw i ddim yn difaru - I don't regret
cysylltiad - a contact
ymateb y cleifion - the patients' response
gwahaniaeth - a difference

"...ychydig o hanes hen ffatri laeth Pont Llanio yn fan'na. Tair nyrs o Ysbyty Gwynedd sydd gynnon ni nesa - Sarah Baker, Donna Jones a Rebecca Jones. Dan ni'n mynd i glywed rhan o'u sgwrs efo Rhian Price ar Post Cyntaf, lle maen nhw'n sôn am eu gwaith efo adran ddeialysis yr ysbyty. Dyma Sarah Baker i ddechrau..."

Ìý

Cofio - Gweithio mewn ffatri

ffatri ieir - hen factory
mi dyngais i lw - I swore an oath
undonog - boring
tanau nwy - gas fires
cyfnod - period (of time)
caead - lid
sylweddoli - to realise
treulio - to spend (time)
sylw - attention
uchelseinydd - loudspeaker

Sarah, Donna a Rebecca yn amlwg yn mwynhau y gwaith hynod o bwysig maen nhw'n eu wneud yn adran ddeialysis Ysbyty Gwynedd. Dydy pawb ddim mor lwcus i allu mwynhau y gwaith maen nhw'n ei wneud, fel y cawn ni glywed yn y clip nesa. John Hardy a dwy wrandawraig rhaglen 'Cofio' fuodd yn rhannu eu profiadau personol am weithio mewn ffatri. Ym mha ffatri buest ti'n gweithio ynddi felly, John?...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ffeinal Cwpan Cynghrair Pencampwyr Ewrop

Nesaf

Cystadleuaeth yn Stadiwm y Mileniwm