Main content

Degawd o bΓͺl-droed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A ninnau ar drothwy degawd newydd, be ydi'r atgofion o'r deng mlynedd ddiwetha'?
Mae’n debyg nad oes ond un ateb yma yng Nghymru - yr Ewros yn 2016.
Mae yna gymaint wedi ei ddweud a'i nodi a'i ysgrifennu, ond i mi'r atgof fwyaf oedd bod yn Bordeaux ar yr unfed ar ddeg o Fehefin a bod ynghanol y wal goch o gefnogwyr yng nghanol y ddinas, y stadiwm a chreu awyrgylch nad oedd fawr yr un ohonom wedi ei brofi o'r blaen.
Roedd cyrraedd Bordeaux fel cyrraedd canol stryd fawr Porthmadog neu Gaernarfon, gyda’r crysau cochion ym mhob man, mwy o Gymraeg ar y stryd nag mewn eisteddfod a lliw'r gwin lleol yn cyfuno'n berffaith gyda lliw'r crysau.
Ia wir, helo Bordeaux, ac Ar y Marc yn cael ei ddarlledu yn fyw o flaen cannoedd o gefnogwyr a oedd yn ychwanegu at flas y bore.
Roedd y ddraig ar daith, enwogion pêl droed y genedl yn crwydro yng nghanol y bwrlwm gydag awyrgylch cwbl ddirdynnol, croesawgar ac o undod rhwng pob Cymro.
Roedd yna dros hanner canrif ers i mi fynd i'r ysgol fel pob rhyw fachgen bach da, drwy’r niwl a glaw, boed aeaf neu ha’. Ac yn yr ysgol mi ges lesyns histori, geography ac ambell i lesyn am ymdrechion John Charles a’i dim yng Nghwpan y Byd yn Sweden am mai Cymro bach ydw’i. Ond yna, yng nghanol haf bythgofiadwy'r Ewros, Bordeaux a gafodd y " lesyns history, geography" a’r Welsh chwarae teg, am mai Cymry 'roeddem ni!
Helo Bordeaux yn wir, a merci, merci beaucoup am y croeso - croeso a gafodd ei ail adrodd i mi ar strydoedd Paris yr wythnos ddilynol, wrth weld y Ffrancwyr yn syllu’n syfrdanol wrth glywed y Cymry bondigrybwyll yn cadw sΕ΅n a chynnal cymanfa ar y trên danddaearol a thu allan i dy fwyta o'r enw Joe Allen yng nghanol y ddinas! Wel doedd na unlle arall i ymgynnull nac oedd!
Ond nid digwyddiad unigryw oedd hwn am fod,
Er methu a chyrraedd ffeinals Cwpan y Byd yn 2018, fe aeth y to newydd ati i sicrhau undod, a dangos parhad a dilyniant o dan arweiniad Ryan Giggs gan ein harwain i'r Ewros unwaith eto.
Ond nid taith ar draws y Sianel fydd hi, ond menter anturus ar draws y cyfandir - i Baku a Rhufain, ac rwy'n siΕ΅r y bydd y storiâu am yr hynt a helynt o gyrraedd pellteroedd Ewrop yn frith erbyn diwedd yr haf nesaf
Yn nes adre, mae yna dipyn o newid wedi bod o fewn Uwch gynghrair Cymru
Ail drefnwyd y gynghrair yn nhymor 2010-11 i ddeuddeg tîm gan hollti ar ôl y Nadolig i'r chwech uchaf a'r chwech isaf gyda’r bwriad o wella safonau.
Anodd ydi gwerthuso pa mor llwyddiannus fu hyn, er bod yna enghreifftiau da - ond mae anghysondeb hefyd yn codi ei ben yn rhy aml.
Mae yna newidiadau enfawr wedi bod gyda chewri Bangor yn dod ar draws amser cythryblus yn ddiweddar a cholli eu lle yn yr Uwch gynghrair, gan ddangos pa mor fregus ydi ceisio gwarchod safonau dros y blynyddoedd. Yna, fe welwn dîm nad oedd unrhyw un yn tybio y byddai yn cystadlu yn yr uwch gynghrair heb son am chware yn Ewrop, Coleg Met Caerdydd yn ennill eu lle yn haeddiannol ar y cyfandir.
Pwy a feddyliodd ‘nol yn 2010 y byddai tîm o fyfyrwyr yn cynrychioli Cymru ar feysydd pel droed Ewrop?
Diflannodd y Barri cyn cychwyn y ddegawd, ond yna fe wnaethpwyd atgyfodiad o dan drefn eu cefnogwyr, ac mae'r dyddiau da yn ymddangos fel petaent yn dychwelyd i Barc Jenner. Aeth Prestatyn ar daith dros y moroedd, gan guro Liepājas Metalurgs o Latvia, cyn colli i Rijeka o Croatia. Yna, daeth yr anghysondeb, drwy weld cwymp i Gynghrair y Gogledd cyn ail drefnu, ac ymddangos fel y maent ar eu ffordd yn ôl i'r Uwch gynghrair unwaith eto.
Un cysondeb mewn canlyniadau ydi tîm Y Seintiau Newydd - sydd wedi ennill y goron yr Uwch gynghrair naw o weithiau, a Chwpan Cymru bum gwaith.
Y gêm dwi’n ei chofio orau o’r holl gemau Ewropeaidd dwi wedi eu mynychu, ydi honno pan lwyddodd Y Seintiau Newydd i drechu Bohemiaid Dulyn o bedwar gôl i ddim - gem ble roeddwn yn gohebu ar ran Radio Cymru a hefyd RTE Iwerddon ac fe allai eich sicrhau fod y canlyniad yma un un nad oedd y Gwyddelod wedi ei ddisgwyl.
Cyn cloi dylwn hefyd gyfeirio at gystadleuaeth arall, newydd sydd wedi tynnu fy sylw gan roi cyfle i mi weld gemau diddorol yn Cei Connah. Dyma gystadleuaeth Cwpan Her yr Alban a welodd Cei Connah yn cyrraedd y ffeinal y llynedd gan golli i Ross County.
Ond cwpan gwerth cystadlu ynddi - gwelais Ddinas Caeredin ar faes y Coleg ar Lannau Dyfrdwy a hefyd Coleraine o Ogledd Iwerddon, a phwy a alla difrïo’r gystadleuaeth yma pan gafodd y Cei'r cyfle i chwarae yn erbyn Queens Park yn Stadiwm Hampden yn Glasgow.
Degawd newydd, llawn gweledigaeth i rai, llwyddiant parhaus i eraill ac anghysondeb i ambell un.
Be fydd o’n blaenau yn ystod y degawd nesaf?
Does a wybod, ond bydd Baku a Rhufain yn galw cyn i ni droi!
Nadolig llawen a blwyddyn (a degawd) newydd dda i chi gyd a diolch am ddarllen y blogiau.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg 23ain o Ragfyr