Main content

Geirfa Podlediad Pgion i Ddysgwyr - Mehefin 17, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Dylan Jones - Cŵn Pesda

...y 'Pesda Pooches'. Be goblyn ydy rheina meddech chi? Wel 'Pesda' ydy be mae'r bobl leol yn galw tref Bethesda yng Ngwynedd, ac mae Sian Lloyd Ellis newydd dechrau busnes yna o'r enw 'Pesda Pooches'. Dyma Siân yn dweud wrth Dylan Jones fore llun diwetha am y gwasaneth arbennig iawn mae hi'n ei gynnig i gŵn Dyffryn Ogwen...

cŵn - dogs

chydig o ddamwain - a bit of an accident

nyrs arbenigol - specialist nurse

lleihau fy oriau - reduce my hours

be sy'n talu orau - what pays best

trin - to treat

blew cŵn - dogs' hair

perchennog - owner

torri gwinedd (ewinedd) - to cut nails

y rhan fwya ohonyn nhw - most of them

Ìý

Dan yr Wyneb - Sgwâr Tiananmen

Dylan Jones yn fan'na yn siarad efo Sian Lloyd Ellis am y Pesda Pooches, ac mi roedd y rhaglen honno'n dod yn fyw o gaffi Coed y Brenin ym Methesda. Dan ni'n mynd yn bell iawn o Wynedd rwan - yr holl fordd i Tsiena. Mae hi'n bum mlynedd ar hugain ers i lygad y byd fod ar yr hyn oedd yn digwydd yn Sgwâr Tiananmen, yn Bejing. Roedd Lucy Hughes yn Bejing yn ystod y trafferthion ac yn cofio'r digwyddiadau'n glir iawn. Nos Lun diwetha mi fuodd hi'n sôn wrth Dylan Iorwerth am ei hatgofion. Dyma i chi flas ar y sgwrs..

chwyldro diwyllianol - cultural revolution

rhyddid - freedom

awyrgylch - atmosphere

y fyddin - the army

dychwelyd - dod yn ôl

alla i dystio - I can testify

y werin - the ordinary people

tyngedfennol - decisive

wedi ei clwyfo - injured

ffrwydriadau - explosions

Ìý

Bore Cothi - Ian Baar

Lucy Hughes yn fan'na yn dod â digwyddiadau Sgwâr Tiananmen yn fyw iawn i wrandawyr rhaglen Dan yr Wyneb nos Lun diwetha. Sgwrs ychydig yn wahanol sydd ganddon ni rwan, Shan Cothi yn siarad efo’r hyfforddwr llais Ian Baar. Mae Ian o'r farn bod yna rhyw dalent canu arbennig iawn gan bobl Cymru. Doedd hynny fawr o help iddo fo fodd bynnag pan oedd rhaid iddo fo ganu'r hen gân Gymraeg 'Arafa Don' mewn cystadleuaeth yn y coleg. Roedd clywed Shan yn sôn am y 'don' yn ddigon i ddod ag atgofion hunllefus yn ôl iddo fo...

atgofion hunllefus - dreadful memories

o'r crud - from the cradle

fel rheol - fel arfer

cantorion ifanc - young singers

y ddawn naturiol - the natural talent

mantais - advantage

tonnau - waves

ysgoloriaeth - scholarship

Ystyr success

ffwndro - to be confused

Ìý

Rhaglen Dylan Jones - Brasil

Dw i'n siwr ein bod ni gyd yn difaru rhywbeth o'r gorffennol, fel Ian Baar yn fan'na yn siarad ar Bore Cothi ac yn difaru peidio â pharatoi ar gyfer y gystadleuaeth. Tybed ydy Dyfan Owen yn difaru gadael Brasil rwan bod Cwpan y Byd ymlaen? Mi fuodd Dyfan yn byw yn Brasil tan ddwy flynedd yn ôl, ac mae o wedi priodi merch o Brasil. Pa dîm felly bydd o'n ei gefnogi yn y twrnament? Dylan Jones ofynnodd hynny iddo fo ddydd Iau - cyn y gêm agoriadol. Cwestiwn gwirion ynde?

y cynnwrf - the excitement

difaru - to regret

ymdopi - to cope

trafnidiaeth - transport

tlodi - poverty

ddim mwyach - no longer

celfyddyd - art

dagrau mawr - huge tears

disgwyliadau - expectations

gwledd - a feast

Ìý

Mwy o negeseuon