Main content

Pigion i ddysgwyr: Geirfa 24 Ebrill 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Stiwdio  -  Tammy Jones
ÌýÌý
cyflwyno  -  to present
ar frig  -  on top
llyffantod  -  frogs
gyrfa  -  career
gwledydd  -  countries
llwyddiant  -  success
dwyn i fyny  -  to raise
trafeilio  -  travel
trosodd  -  over
llithro  -  to slip
ÌýÌý
ac mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n mwynhau gwylio rhaglenni talent ar y teledu. 'The Voice', 'Britain's Got Talent', 'Cân i Gymru'; dw i wrth fy modd efo nhw! Ond, dydy'r syniad o gael rhaglenni talent ar y teledu ddim yn rhywbeth newydd. Flynyddoedd cyn Simon Cowell roedd Hughie Green yn cyflwyno'r rhaglen 'Opportunity Knocks' ar y Â鶹ԼÅÄ. Yn 1975 roedd Tammy Jones, merch ifanc o Dalybont ger Bangor, ar frig y siartiau pop ar ôl iddi gael llwyddiant mawr ar 'Opportunity Knocks'. Ddydd Iau cafodd Kate Crockett sgwrs efo Tammy am ei gyrfa ac am yr holl wledydd y buodd hi'n perfformio ynddyn nhw.ÌýÌý
ÌýÌý
Straeon Bob Lliw  -  Frank Honeybone
ÌýÌý
dirgrifwr  -  comedian
yn hytrach  -  rather
cefnogi  -  to support
darganfod  -  to discover
confensiynol  -  confensiynol
methu  -  to fail
menyw  -  woman
beichiog  -  pregnant
halen i'r briw  -  salt into the wound
datblygu  -  to develop
ÌýÌý
Y digrifwr Frank Honeybone oedd ar y rhaglen 'Straeon Bob Lliw' wythnos yma. Nid dweud jôcs oedd o, ond yn hytrach sôn am gyfnod anodd iawn yn ei fywyd.  Yn y clip yma mae Frank yn sôn am gefnogi ei wraig Nadine drwy driniaeth IVF, ac ar ôl iddyn nhw gael mab bach, mi wnaethon nhw ddarganfod ei fod yn Awtistig. ÌýÌý
ÌýÌý
Iola Wyn  -  Robat Arwyn
ÌýÌý
cerddor  -  musician
cyfansoddwr  -  composer
addurn  -  ornament
silff ben tan  -  mantelpiece
draig  -  dragon
ysbrydoli  -  to inspire
llechen  -  slate
y faner  -  the flag
syrthio  -  to fall
talog  -  haughty
ÌýÌý
Roedd y cerddor a'r cyfansoddwr Robat Arwyn ar raglen Iola Wyn wythnos yma yn siarad am addurn pwysig iawn sy' gynno fo ar ei silff ben tân. Nid 'antique' ydy o, ond yn hytrach addurn bach o ddwy ddraig a gafodd yn bresant gan ei ferch fach, Elan. Dyma Robat i sôn sut mae'r addurn wedi ei ysbrydoli i 'sgwennu cân i ElanÌýÌý
ÌýÌý
Daf a Caryl  -  Fflur Wyn
ÌýÌý
llwyfan  -  stage
brawychus  -  terrifying
cynhyrchiad  -  production
siartiau  -  charts
cartrefol  -  homely
gwefr  -  to thrill
cantorion  -  singers
gwirioni  -  to dote
cydnabyddiaeth  -  recognition
cyhoeddusrwydd  -  publicity
ÌýÌý
Mae perfformio ar lwyfan yn medru bod yn brofiad brawychus iawn ond nid i'r soprano ifanc Fflur Wyn. Mae Fflur yn perfformio'r rhan Achsah yn Opera Handel Joshua yn Leeds ar hyn o bryd. Cafodd Caryl a finnau sgwrs gyda Fflur ddydd Llun am y cynhyrchiad, ei llwyddiant yn siartiau 'Itunes' ac am y llwyfannu gwahanol mae hi wedi perfformio arnyn nhw dros y blynyddoedd.ÌýÌý
ÌýÌý
Nia  -  Einstein
ÌýÌý
enwog  -  famous
marwolaeth  -  death
cysylltiad  -  connection
Efrog Newydd  -  New York
miliwnydd  -  millionaire
ariannu  -  to finance, fund
cyfrinachau  -  secrets
cyffrous  -  exciting
o fan i fan  -  from place to place
y ford  -  the table
ÌýÌý
...pob lwc i Fflur yn yr opera newydd 'Alice in Wonderland.' Pe baech chi'n cael dewis tri pherson enwog, yn fyw neu'n farw, i gael swper efo nhw, pwy fysen nhw? Marilyn Monroe? Mohammed Ali? Albert Einstein? Ddydd Iau roedd hi'n bumdeg wyth o flynyddoedd ers marwolaeth Albert Einstein ac mi wnaeth Nest Davies ffonio rhaglen Nia i ddweud am y cysylltiad diddorol iawn oedd gan ei modryb hi gydag Einstein. I ddweud y gwir, roedd gan Margaret Williams, modryb Nest, gysylltiad diddorol gyda llawer o bobl enwog fel Hellen Keller a Roosevelt. Dyma Nest gyda'r hanes.ÌýÌý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 2