Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Gorffennaf 8, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ìý

Bore Cothi - Dilwyn MorganÌý

digrifwr - comedian
plentyndod - childhood
cynhaeaf gwair - harvesting hay
tyddyn - smallholding
cwt pren - wooden hut
cyntefig - primitive
hel meddyliau - to gather thoughts
anhygoel - incredible
iechyd a diogelwch - health and safety
neidr - snake

...Shan Cothi yn siarad efo'r digrifwr Dilwyn Morgan am ei blentyndod. Roedd Shan wedi bod yn siarad efo nifer o bobol gydol yr wythnos ar Bore Cothi am sut buon nhw'r treulio'r haf pan oedden nhw'n blant. Tro Dilwyn Morgan oedd hi fore Llun ac mi glywon ni ganddo fo be oedd plant Tudweiliog ym Mhen Llyn ei wneud yn ystod yr haf ers talwm ...

Ìý

Bore Cothi - Pum cenhedlaeth

pum cenhedlaeth - five generations
newydd sbon danlli - brand new
bawd fy nhroed - my big toe
dychmygu - to imagine
hen hen daid - great great grandfather
faint fynnoch chi - as much as you want
cythraul o le - hell of a place
yn warcheidiol iawn - very protective
cyfrinachau - secrets
hidiwch chi befo - never you mind

Gwersi mathamateg ar y traeth? Tybed fyddai hynny'n digwydd heddiw ma? Dw i ddim yn meddwl rywsut. Arhoswn ni efo Bore Cothi ond Caryl Parry Jones oedd yn cyflwyno'r rhaglen ddydd Iau yn lle Shan. Mi gafodd Caryl sgwrs ddifyr iawn efo teulu o Benrhyndeudraeth yng Ngwynedd. Mae pum cenhedlaeth o'r teulu yma yn byw yn yr ardal ac mi gafodd Caryl sgwrs efo Ismael. Fo ydy'r hyna o'r teulu ac mae o'n hen hen daid, neu dad-cu...

Ìý

Dylan Jones - Tour de France

cerbydau - vehicles
pebyll - tents
gwersylla - camping
cynllunio - planning
cymal - stage (of a race)
golygfeydd godidog - stunning views
cefnogi - to support
fel petai - so to speak
criw go lew - a good crowd
profiad - experience

Dyna gymeriad ydy Ismael ynde? Gobeithio wneith o o fwynhau ei ddêt efo Caryl - a chofio bihafio! Dan ni'n mynd i symud i fyd chwaraeon am y ddau glip diwetha. Na peidiwch â phoeni os dach chi wedi cael llond bol ar y pêldroed, mi oedd yna gystadlaethau eraill yn digwydd yr wythnos diwetha hefyd. Y Tour de France oedd un ohonyn nhw. Ond, yn rhyfedd iawn, doedd y ras ddim yn dechrau yn Ffrainc ond yng Ngogledd Lloegr. Mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo Bethan Davies o Lanfrothen, ger Porthmadog, sy’n aelod o Glwb Beicio Dwyfor, ac oedd ar fin teithio i fyny i Swydd Efrog am y penwythnos i wylio dechrau'r ras feicio efo aelodau eraill o'r clwb...

Ìý

Bore Cothi - Wimbledon

gohebydd - correspondent
cyrtiau - courts
yn gyfarwydd efo - familiar with
sêr - stars
dipyn o arwr - a bit of a hero
yr wythfed tro - the eighth time
awyrgylch - atmosphere
byr ei amynedd - impatient
arwyddo - to sign
yn gyfeillgar iawn - very friendly

Bethan Davies yn fan'na yn edrych ymlaen i weld y Tour de France. Tenis ydy'r gamp arall sydd wedi bod ymlaen yr wythnosau diwetha wrth gwrs. Gofynnodd Caryl Parry Jones i’r gohebydd tenis, Catrin Heledd, oedd Wimbledon yn debyg i'r Steddfod? Be oedd hi'n ei olygu dwedwch? Bod rhaid gwisgo wellingtons i fynd yno? Neu ella bod Steddfodwyr yn yfed Pimms ac yn bwyta mefus? Na ddim dyna oedd y tu ôl i'r cwestiwn fel y cewch chi glywed yn y clip yma...

Ìý

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Dylan Llywelyn - Chwysu Chwartiau

Nesaf

Blog Ar y Marc: Alfredo di Stefano