Main content

Cyhoeddi taith Caroloci – a chyfle i bawb uno yn yr ŵyl

Newyddion

Bydd cyfle i bawb uno yn yr Å´yl ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru y Nadolig hwn a chyd-ganu carolau ar Daith Caroloci Radio Cymru.

Yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 1) cyhoeddwyd y lleoliadau fydd rhai o raglenni mwyaf poblogaidd yr orsaf yn ymweld â nhw yn ystod y daith.

Datgelodd Heledd Cynwal ar raglen mai Canolfan Arddio Penrallt yn Aberteifi fydd y lleoliad cyntaf ar y daith ddydd Llun, Rhagfyr 14, gydag ymweliad a darllediad byw arbennig gan raglen . Wedyn fe fydd y daith yn ymweld â Chanolfan Arddio Fron Goch, Caernarfon gyda rhaglen ar y dydd Mawrth; Marchnad Machynlleth gyda rhaglen ar y dydd Mercher; Siop Fferm Cwm Cerrig, Gorslas ger Cross Hands gyda fore Iau; cyn i’r cyfan ddod i ben yng Nghanolfan Arddio Tyddyn Sachau, Pwllheli, gyda rhaglen brynhawn dydd Gwener, Rhagfyr 18.

Yn ogystal ag arlwy amrywiol y rhaglenni bydd cyfle i bawb ddod at ei gilydd ac uno yr yr Å´yl ar ddiwedd y rhaglenni gyda pherfformiad arbennig o garolau sydd wedi eu dewis yn ofalus ar gyfer y Daith.

“Mae Taith Caroloci Radio Cymru yn gyfle gwych i ni ymuno yn y dathliadau a’r paratoi ac i rannu ym mhrysurdeb y cyfan gyda nifer fawr o’n gwrandawyr mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru,” meddai Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys. “Mae bod allan yng nghanol ein cymunedau yn rhywbeth rydyn ni’n ceisio ei wneud drwy’r flwyddyn ac mae hwn yn gyfle arbennig i sicrhau bod Radio Cymru yn rhan o’r Nadolig i nifer fawr o’n gwrandawyr, ac mae hefyd yn gyfle i atgoffa pawb am yr arlwy gyfoethog fydd ar yr orsaf dros yr wythnosau nesaf.”

Ymysg rhai o uchafbwyntiau amserlen y Nadolig ar Radio Cymru eleni mae:

• cynhyrchiad o ddrama newydd Ysbrydion gan William Owen Roberts, sydd wedi’i gosod ym 1916 yn ystod y Rhyfel Mawr

Sgript Slam Gomedi – ar ôl llwyddiant sesiwn yn yr Eisteddfod ym Meifod, bydd Radio Cymru yn rhoi comedi yn nwylo’r gwrandawyr dros y Dolig a’r flwyddyn newydd. Chwe rhaglen, chwe thema, actorion profiadol a llu o jôcs a sgetsys newydd gan wrandawyr sydd eisiau i ni chwerthin

Straeon Nadolig Geth a Ger – cyfle i glywed y bedair stori fuddugol yn yr her a osodwyd i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6. Roedd straeon buddugol llynedd mor boblogaidd fel eu bod nhw newydd eu cyhoeddi fel llyfr ‘Dolig y Plant’. Anni LlÅ·n, Bethan Gwanas a Bedwyr Rees sydd unwaith eto’n beirniadu’r holl geisiadau (a’r dyddiad cau ydy Rhagfyr 11)

• uchafbwyntiau Stomp Cerdd Dant Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau

Huw Stephens yn dewis rhai o’i hoff ganeuon Nadolig yn arbennig ar gyfer Radio Cymru

Nadolig gyda Gershwin ac Ellington – cyfle i glywed perfformiad gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ o rai clasuron Americanaidd, perfformiad sy’n cynnwys pianydd ifanc poblogaidd o’r enw Joseph Moog wrth iddo ymuno â’r Gerddorfa am y tro cyntaf

• rhifyn arbennig o Stiwdio gyda Nia Roberts yn cludo gwrandawyr i hud un o’r sioeau cerdd mwyaf poblogaidd – Les Miserables, sioe sydd wedi gwneud argraff yn y West End ers 30 mlynedd ac a berfformiwyd yn ddiweddar yn Gymraeg yng Nghaerdydd i ddathlu deng mlynedd ers agor Canolfan Mileniwm Cymru

Nadolig Hetty – Shân Cothi yn ymweld â Hetty Betchler o Abergwaun yn ei chartref yn Llundain er mwyn dysgu mwy am stori a hanes arbennig y wraig fu’n dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed eleni

• yn Newyddion y Flwyddyn fe fydd Alun Thomas a’i westeion yn bwrw golwg yn ôl ar rai o brif straeon y flwyddyn, ac ni fydd tîm y Post Cyntaf yn cael fawr o seibiant o gwmpas y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ’chwaith, wrth i rai o’r gohebwyr newyddion ymweld â phum ardal gwahanol rhwng Rhagfyr 24 a Ionawr 4 i adrodd am bynciau llosg sy’n cael effaith yn lleol ac yn genedlaethol

Ar heddiw hefyd, gosodwyd tasg Nadoligaidd arbennig i ar gyfer mis Rhagfyr, Aled Lewis Evans, sef . Unwaith mae’r geiriau yn barod fe fydd Tecwyn Ifan yn cyfansoddi cerddoriaeth a bydd y garol yn cael ei pherfformio yn ddiweddarach yn y mis.

Gosod her Nadoligaidd i'n bardd preswyl, Aled Lewis Evans.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 01/12/2015

Nesaf

Goliau Jamie Vardy