Main content

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 4

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Tagiwyd gyda:

Rownd 1, rhaglen 4,Ìý12ÌýMai 2013:ÌýMaes-y-waun ger y Bala

Fel roeddwn yn awgrymu’r wythnos dwetha, peidiwch, da chi, â chredu popeth sydd ar y we, y we honedig fyd eang.

Ces brawf digamsyniol o hyn wedi i mi deipio ‘Neuadd Maes-y-waun Y Bala’ i mewn i Google, a hynny cyn gwneud y daith ddwy-awr-a-hanner(ish) o Aberteifi i’r Bala i ricordio talyrnau’r wythnos hon a’r wythnos dwetha.

Y nod oedd cael hyd i gôd post, a gadael i’r TwmTwm wneud y gweddill. ÌýSimples, chwedl Williams-Parry.

Cofiwch, dwi i a’r satnav ymhell o fod yn ffrindiau gorau. Ac fe fydd rhai o selogion Y Talwrn yn gwybod i mi gael peth ffwdan wrth geisio dod o hyd i Lansannan yn ystod cyfres y llynedd oherwydd i mi ymddiried yn llwyr yn anffaeledigrwydd y teclyn hwnnw.

Fe’m danfonodd y noson honno, ynghanol niwl mis Chwefror, hanner ffordd lan Mynydd Hiraethog, cyn iddo ddatgan (yn smyg reit, os cofia’i’n iawn): ‘You have arrived at your destination’.

Wedi i mi, yn hwyrach y noson honno, gyrraedd Llansannan (sydd ddim, gyda llaw, hanner ffordd lan Mynydd Hiraethog o bethe’r byd), bu raid i mi weithio englyn i waredu’r rhwystredigaeth ac embaras, englyn yn cyfarch y lloeren a’m harweiniodd i ar gyfeiliorn:

Er i’th DomTom faentumied ei fod ef
wedi diâll y blaned,
nid oedd, mwy na’r Meuryn, dwed,
y TomTom werth un tamed!

Beth bynnag am ‘llynedd, fe wglais ‘Maes-y-waun’ ‘leni. A chael yr ateb anfarwol, yr union ateb yn wir ag a ddisgwyliech ei gael gan tobacconist diog: ‘No matches found’.

Es wedyn i’r AA Route Planner, ond roedd hwnnw hefyd yn gwadu bodolaeth y gymdogaeth fach hon yn Sir Feirionnydd (rhwng Rhyduchaf a Llidiardau).

Ond, yn y pendraw, diolch i ddau fap a dau brifardd, cyrhaeddais!

I beth, meddech chi, dwi’n ailgynhesu’r hen, hen hanes hwn. Wel, oherwydd taw prin iawn oedd ymdrechion ychwanegol beirdd Penllyn, Y Glêr a Hiraethog ar Y Talwrn yr wythnos hon.

Dim ond un cynnig yr un ar bob tasg a gafwyd ganddynt y tro hwn, a hynny’n gwneud gwaith y Meuryn ymlaen llaw gymaint â hynny’n haws, ond yn gwneud ei waith o gyfansoddi blog o dan y teitl ‘Y Gorau o’r Gweddill’ yn broblematig!

Dwi’n dweud celwydd nawr. Mi roedd ’na un cynnig ychwanegol gan y tîm lleol, sef Penllyn, ar y dasg agoriadol, sef cwpled yn cynnwys yr enw ‘San Siôr’, a dyma hwnnw i chi:

WediÌý yfed ’da Ifor
Meg sy’n sick ym mog San Siôr

Penllyn

Pwy yw Ifor, meddech chi, yr hwn oedd ei wrhydri a’i wydryn yn drech na Meg druan? Pwy yw Meg? Pwy neu beth yw (neu ble mae) San Siôr a’i fog? Dyma rai o’r cwestiynau nad oes neb sydd â hanner bywyd ganddo neu ganddi yn eu gofyn, gobeithio!

Roedd yr ornest heno yn un dda (unwaith eto): cywydd Rhys Dafis o dîm Hiraethog yn glasur o ddoethineb a gonestrwydd telynegol.

Cywydd da hefyd gan Eurig Salisbury o dîm y Glêr, er ‘mod i wedi gorfod cyhuddo Eurig, yn gyhoeddus, druan, o’r bai trwm ac ysgafn yn y llinell gyntaf, sef ‘As if ar wyneb FIFA’. (Chi sydd ddim yn hoff o anoraciaeth cynganeddwyr, drychwch i ffwrdd nawr.) Nid yw’r sain ‘iff’ sydd yn y gair Saesneg ‘if’ yn odli gyda’r sain ‘îff’ sydd yn sillaf olaf ond un y gair ‘FIFA’, er eu bod nhw’n edrych yr un peth ar bapur. (Drychwch nôl nawr.)

I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý

  • Ìý

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i ddysgwyr - Geirfa 09 Mai 2013

Nesaf

Yr Albanwyr ar y blaen!