Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 14 Mai 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Iola Wyn - Sioe Nefyn
Ìý
pwyllgor - committee
dyfodol - future
cyfagos - nearby
yn ddiweddar iawn - very recently
aeth hi i'r afael â fi - she confronted me
yn hynod diolchgar - extremely thankful
yn werth ei gweld - worth seeing
beirniad - judge
chdi - ti
enillydd - winner
Ìý
...efo Sioe Nefyn, sydd yn cael ei chynnal bob blwyddyn adeg Gwyl Banc mis Mai. Daeth rhaglen Iola Wyn yn fyw o'r sioe ddydd Llun ac mi gaeth hi gyfle i gael sgwrs efo rhai o aelodau pwyllgor y Sioe, sef John Owen ac Eirian Huws. Dyma'r ddau ohonyn nhw'n yn rhoi ychydig o hanes y sioe, a hefyd hanes cwpan arbennig iawn...

Ìý
Geraint Lloyd - Iwan Jones
Ìý
iâr - hen
caets - cage
beirniadu - to ajudicate
gwartheg godro - dairy cows
cystadlu efo ffyn - competing with sticks???
maharan - ram
hofrennydd - helicopter
wedi ei g'leuo hi - had gone away??
peiriannau amaethyddol - agricultural machines
plisgyn - shell
Ìý
"...ac os oeddech chi'n meddwl bod hwnna'n ddifyr, wel gwrand'wch ar y clip nesa 'ma sydd hefyd yn dod o Sioe Nefyn. Bachgen ifanc deuddeg oed, o'r enw Iwan Jones, fuodd yn siarad efo Geraint Lloyd nos Lun. Mae o'n byw ar Fferm Bryn Celyn Isaf, Llithfaen ger Nefyn ac mi fuodd o'n cystadlu yn y sioe brynhawn Llun efo'i wyau, ei waith coed, ei ffyn, ac efo Jini. A phwy oedd hi tybed? Mi gawn ni wybod rwan..."

Ìý
Manylu - Tân Prestatyn
Ìý
hunllefus - nightmarish
aed â nhw - They were taken
cefnogi - to support
cyflogwr - employer
nain - mam-gu
darpar mab yng nhyfraith - prospective son-in-law
delweddau - images
Ìý
"Faint oedd ei oed o dudwch? Deuddeg ta chwedeg dau? Wel sôn am hen ben ynde? A dyna braf ydy clywed llond ceg o Gymraeg gwych Pen Llyn gan fachgen mor ifanc! Dan ni am aros efo plant yn y clip nesa, ond y tro yma stori hynod o drist sydd gynnon ni. Mis Hydref y llynedd bu farw pum aelod o'r un teulu mewn tân ofnadwy ym Mhrestatyn. Collwyd Lee-Anna Shiers, Bailey ei nai , a Skye ei nith yn y tân. Bu Charlie, mab Lee-Anna a'i dad Liam, farw yn yr ysbyty yn hwyrach ymlaen. Yn y clip mae Steve Allen, brawd Lee-Anna a thad Bailey a Sky,e yn siarad am y noson hunllefus honno. Mi gawn ni glywed wedyn gan Mick Roggiero bos Steve, ac yn olaf mam Lee-Anna a Steve, sef Joy Shiers."

Ìý
Taro'r Post - Alex Ferguson
Ìý
rheolwr - manager
yn gymdeithasol - socially
cysylltiad agos iawn - very close contact
cryn dipyn - quite a lot
tempar rhyfeddol - a fierce temper
mor fonheddig - so gentlemanly
hynod o gyfeillgar - extremely friendly
ffaelon ni - methon ni
cyntedd - foyer
di-duedd - unbiased
Ìý
"Dyna stori drist ynde, a druan o Steve, dw i'n siwr bod ein calonnau ni i gyd yn gwaedu drosto fo. Ac mae hynny'n rhoi perspectif, yntydy ar rai o'r pethau sy'n gwneud pobl yn drist y dyddiau hyn. Newyddion trist mae'n debyg i gefnogwyr Man U oedd bod Alex Ferguson, rheolwr y tîm yn ymddeol. Newyddion tristach i rai, fel fi, oedd bod David Moyes, rheolwr Everton yn cymryd ei le! Ond sut ddyn ydy Fergie? Ydy o mor flin a chas ac y mae rhai'n feddwl. Mae Ann Pasha yn ei nabod yn dda ac mi gaethon ni glywed 'chydig am y dyn ganddi ar Taro'r Post ddydd Mercher... "

Ìý
Stiwdio - Josef Herman
Ìý
menyw - dynes
glowyr - collier
arlunio - to paint
ysgariad - divorce
myfyrwraig - student
pwysigrwydd - importance
Gwlad Pwyl - Poland
Gwlad Belg - Belgium
bad - cwch
Ìý
"Y cwestiwn cynta i Ann Pasha yn y clip yna oedd, 'sut daethoch chi i nabod Sir Alex?'. Y cwestiwn cynta yn y clip nesa ydy 'sut daethoch chi i nabod yr artist Josef Herman?' Llyr Gwyn Lewis ofynnodd y cwestiwn i Caryl Roese ar Stiwdio ddydd Iau. Mae hi'n dod o Ystradgynlais yn wreiddiol a buodd Josef yn byw yno am flynyddoedd. Daeth Caryl i'w nabod yn dda iawn a dyma hi'n adrodd peth o hanes diddorol yr artist enwog."
Ìý
Ìý
Daf a Caryl - Cân y Babis
Ìý
cwtsio - hugging
mwythau - caresses
newid cewyn - changing a nappy
gwyn eu byd - blessed
ffrwyth eu llafur - fruits of their labour

... a dyna ni am yr wythnos yma. Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r podlediad yma a'i fod wedi bod yn ddefnyddiol ac yn ddifyr i chi. Mae tudalen eirfa arbennig yn cyd-fynd a'r podlediad yma i'w chael ar a chlicio ar Pigion. Cofiwch hefyd y bydd cyfres newydd sbon Cariad@iaith yn cychwyn nos Sul am 8 ar S4C, ac ymlaen bob noson o'r wythnos. Mae'r 10 cystadleuydd wed'i datgelu ar y wefan neu ar dudalen Facebook Cariad@iaith.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Yr Albanwyr ar y blaen!

Nesaf