Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 30 Mai 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Iola Wyn - Cacen Hen Destament
Ìý
cynhwysion - ingredients
penodau a'r adnodau - chapters and verses
Barnwr - Judges
llaeth - llefrith
ffiol - bowl
petrys - partridge
dodwy - to lay(an egg)
ffigys - figs
anwybyddu - to ignore
annibynol - independent
Ìý
"...efo bwyd ac efo'r Beibl! Sut mae'r ddau beth yna'n mynd efo'i gilydd, meddech chi? Wel mi roedd rhaid i Iola Wyn ddarllen a deall ei Beibl cyn cael gwybod be oedd cynhwysion cacen go arbennig. Roedd y gogyddes Winnie James o Grymych efo hi yn y gegin a thasg Winnie ddydd Llun oedd coginio ‘Cacen yr Hen Destament’ - rysait roedd Iola wedi'i ffeindio mewn hen feibl - a dyma i chi flas o sut aeth petha...."
Ìý

Rhaglen Nia - Gwers iaith
Ìý
tafodiaith - dialect
glou - cyflym
shwt gymint - cymaint
sai'n meddwl - dw i ddim yn meddwl
penigamp - outstanding
gwerth chweil - really good
wedd - oedd
Ìý
Peidiwch â phoeni os nad oeddech chi'n deall rhai o adnodau'r Hen Destament. Cofiwch mai o hen feibl oedd Iola'n darllen ac mae hwnnw'n anodd iawn. O Grymych mae Winnie'n dod, a dyna'r ardal lle mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yr wythnos yma. Mae tafodiaith arbennig iawn yn perthyn i'r ardal hon ac mi gafodd Nia Roberts wersi iaith gan Ffion Phillips, sydd yn ddisgybl blwyddyn naw yn Ysgol y Preseli.
Ìý

Taro'r Post - siarad Cymraeg
Ìý
dymchwel - to demolish
mynychu - to attend
o ddifrif - seriously
ynganu - pronunciation
twyllo - to fool
gwrthod - to refuse
cyfarch - to greet
ymdrech - attempt
penderfynol - determined
anawsterau - difficulties
Ìý
"Rhag ofn i chi boeni am be oedd Nia'n ei olygu efo'r 'Down Belows', enw pobol gogledd Sir Benfro am bobl de'r sir honno ydy o! Un peth bydd yn sicr - mi fydd yna groeso i'w gael i bawb fydd yn mynd i'r Eisteddfod ym Moncath eleni. Ac mi fydd yna groeso arbennig i ddysgwyr, ac i'r rhai ohonoch chi sydd wedi dysgu'r iaith. Bydd digon o gyfle i chi ymarfer yr iaith ar faes yr Eisteddfod. Ond pa mor barod ydy'r siaradwyr Cymraeg i siarad yr iaith efo dysgwyr? Dyna ofynnodd Gari Owen i Michael Badden, sydd wedi dysgu'r iaith yn arbennig o dda."
Ìý
Atebion - anorecsia
Ìý
salwch meddwl - mental illness
llwyddo - to succeed
caniatâd - permission
gwaethygu - to worsen
TGAU - GCSE
gwastraffu - to waste
ffreutur - canteen
triniaeth - treatment
canlyniadau - results
pwysau - pressure
Ìý
"Tips da gan Michael yn fan'na ar sut i wneud yn siwr bod Cymry Cymraeg yn siarad yr iaith efo dysgwyr. Ond pam bod rhaid cael tips? Dylai siaradwyr Cymraeg helpu'r dysgwyr a siarad efo nhw bob cyfle. Ac mae'r wythnosau nesa ma yn rhai pwysig iawn i lawer o'r dysgwyr, gan fod arholiadau Cymraeg i Oedolion yn cychwyn yn syth ar ôl hanner tymor. Ond peidiwch â phoeni. Does yna yr un arholiad sydd yn werth gwneud eich hun yn sâl drosto. Dyna oedd neges Manon Haf ar @ebion ddydd Sul. Mi fuodd hi'n diodde o anorecsia oherwydd straen arholiadau pan oedd hi yn yr ysgol. Dyma ei stori hi..."

Ìý
Stiwdio - Liberace
Ìý
y ddelwedd - the image
haeddu - to deserve
cerddor galluog - talented mucisian
arddulliau - styles
cymlethu - to comlicate
yn fawreddog - grandiose
synhwyrau - senses
hoyw - gay
efelychu - to emulate
profiad unigryw - unique experience
Ìý
"Pob lwc ynde i bawb sy'n sefyll arholiadau yn ystod yr wythnosau nesa. Ac i orffen efo rhywbeth hollol wahanol. Mae na ffilm newydd ar fin gael ei rhyddhau o'r enw ‘Behind the Candelabra’. Ffilm am fywyd y pianydd Liberace ydy hi efo Michael Douglas yn chwarae rhan Liberace. Ar gyfer rhaglen stiwdio ddydd Iau diwetha aeth Llyr Gwyn Lewis at Annette Bryn Pari i gael ychydig o hanes y pianydd enwog."

Mwy o negeseuon

Nesaf

Blog cefn lwyfan Nia - dydd Iau