Main content

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 18 Medi 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Alex Yn Galw - Mari Grug

parhau - to continue
cyfnodau - periods
tynnu ar ein pennau ein hunain - brought it on our own heads
sylweddoli - to realise
enghraifft - example
achlysur - occasion
anffodus - unfortunately
dodi lan â - to put up with
yn sgil hynny - as a consequence of that
beirniadu - to criticise

"...stori amserol iawn, gan fod tymor newydd yr ysgolion wedi dechrau, a llawer o'r plantos yn mynd i'r ysgol am y tro cynta, neu yn cychwyn mewn ysgol newydd. Sgwn i sut oedden nhw'n teimlo ar eu diwrnod cynta? Edrych yn ôl ar ei dyddiau ysgol oedd Mari Grug, sydd yn cyflwyno'r tywydd ar S4C, pan alwodd Alex Jones arni hi ddydd Llun diwetha. Mae'r ddwy yn nabod ei gilydd ers blynyddoedd, ond doedd Alex ddim yn gwybod am gyfnod eitha anodd gafodd Mari yn yr ysgol. Dyma Mari'n dweud yr hanes..."

Daf a Shân - Pobol y Cwm
anhygoel - incredible
dirgelwch llwyr - total mystery
yn gyfrifol am - responsible for
dyna ei haeddiant hi - she got what she deserved
plismones gudd - undercover policewoman
hau'r hadau - to sow the seeds
twyll mewnol - internal fraud
cymleth - complicated
awgrymu - to suggest
cymryd yn ganiataol - to take for granted 

Difyr ynde, mai nid plant gwan, dihyder, yn unig sy'n cael ei bwlio. Mari yn fan'na'n sôn mai bod yn rhy hyderus oedd y rheswm iddi hi gael ei bwlio. Ond dyna fo, tybed ydy'r bwlis wedi cael gyrfa mor llwyddiannus ag un Mari? Mi ges i gwmni Shan Cothi yr wythnos hon ar Daf a Caryl, gan fod Caryl ar ei gwyliau. Ac mi gaethon ni'n dau sgwrs ddifyr iawn efo'r actores Llinor ap Gwynedd am ei chymeriad hi yn 'Pobol y Cwm' sef Gwyneth Jones. Fel y clywon ni, mae hi wedi cael pob mathau o broblemau yn ddiweddar.

Geraint Lovgreen ar Enw'r Gan - Trefor
dawn siarad - gift of the gab
parodrwydd - readiness
datblygu perthynas - to develop a relationship
trwy dy oes - throughout your life
yn cyfeirio at - refers to
siarad dwli - to speak rubbish
rhochian - grunt
cymeriadau - characters

"Nefoedd, efo cymaint yn cael eu harestio mae'n syndod bod neb ar ôl yng Nghwmderi! Mae yna lawer o sôn yndoes am yrrwyr tacsi Llundain; am eu dawn siarad ac am eu parodrwydd i roi eu barn am unrhyw fater o dan haul. Ond os byddwch chi'n ddigon lwcus i fod yn nhacsi Trevor Hughes yn y ddinas fawr, mi gewch chi sgwrs fwy difyr na hynny. Nid yn unig mae Trevor yn frawd i Ifor ap Glyn, enillodd y goron yn Eisteddfod Dinbych eleni, ond mae cân Gymraeg wedi ei sgwennu amdano fo. Ail Symudiad sy'n canu ‘Tref a'i dacsi' ac mi gawn ni glywed tipyn o hanes y gân rwan.."

Huw Stephens - Côr Cochion Caerdydd
alltudion - exiles
gweithgareddau - activities
caneuon chwyldroadol - revolutionary songs
arf - weapon
cefnogaeth - support
enfawr - huge
arweinydd - conductor
mewn gwirionedd - in reality
casgliad - collection
yn y man - mewn munud

"Yntydy hi'n wych clywed rhywun sydd wedi ei eni a'i ei fagu yn Llundain, ac sy'n dal i fyw yno yn siarad Cymraeg cystal a Trevor? Mae yna wers yn fan'na i ambell un sy'n byw yng Nghymru, siwr o fod. Arhoswn ni ym myd y gân rwan a chael clywed ychydig am Gôr Cochion Caerdydd. Mae unrhywun un sydd wedi cerdded trwy ganol y ddinas ar ddydd Sadwrn yn siwr o fod wedi clywed y côr hwn yn canu wrth y farchnad. Ond nid côr cyffredin yw hwn fel yr eglurodd Lyn Mererid a Olwen Leovald wrth Huw Stephens... "

Allende, Pinochet a Chorwynt Medi - Chile
deffroad - awakening
anochel - inevitable
delfrydol - ideal
tanseilio - to undermine
tarddu - to derive
goresgyn - to overcome
profiad ysgytwol - a moving experience
galluogi - to enable
trafodaeth - debate
pleidleisiais - I voted

Mae'n amlwg bod yr hyn ddigwyddodd yn Chile ym Mil Naw Saith Tri wedi cael effaith mawr . Ac mi roedd yna raglen arbennig ar Radio Cymru i gofio'r 'Nine Eleven' arall a'r pethau ofnadwy ddigwyddodd yn Chile wedi i'r fyddin gymryd drosodd a chael gwared ar ddemocratiaeth yn y wlad. Dyma Ann Beynon, Hywel Francis, Dafydd Iwan a Kevin Brennan yn dweud pa effaith cafodd y sefyllfa hon arnyn nhw...

Nia Roberts - Cas bethau
y delynores - the harpist
anghydfynd - disagree
Y Rhyfel Oer - The Cold War
ffili - methu
dadwneud - to undo
cwympo - disgyn
sbardun - catalyst

"Dan i'n mynd i orffen gyda rhywbeth ysgafnach. Bois bach mi wnes i chwerthin pan glywes i'r clip hwn. Y delynores Mags Harris oedd yn siarad am ei chas bethau ar rhaglen Nia ddydd Iau. Mae'n cychwyn trwy ddweud beth yw un o'r cas bethau hynny sef ffonau symudol. Ond mae'n werth aros am y stori ddiddorol iawn y cawn ar ddiwedd y clip, yn enwedig os ydych chi'n ffan o 'Only Fools and Horses'!"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Blog Ar y Marc - Ysgolion Aberystwyth