Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Hydref 7, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ìý

C2: Y Teimlad - babanodÌý

cysylltiad - connection
y gallu i gyfathrebu - the ability to communicate
yr ymenydd - the brain
y groth - the womb
sain - sound
datblygu'r clyw - developing the hearing
synnau gwahanol - different sounds
cyplysu'r geiriau efo ystyron - coupling sounds with meaning
tynhau ei chyhyrau - tightening her muscles
hwiangerddi - lullaby

...sgwrs am fabis. Ond ddim rhyw sgwrs fasech chi'n ei chlywed bod dydd cofiwch, ond rhan o gyfres Y Teimlad ar C2, lle mae Lisa Gwilym yn chwilio am y cysylltiad rhwng cerddoriaeth ac emosiwn. A'r wythnos diwetha cafodd Lisa gwmni'r Dr Mair Edwards, sydd yn seicolegydd clinigol, i sgwrsio am sut mae cerddoriaeth yn gallu helpu babanod i siarad ac i ddeall iaith.

Ìý

Bore Cothi - Diwrnod yr Henoed

Diwrnod Pobl Hyn - Older People's Day
llaeth - llefrith
y cyfnod - the period
ces i fy medyddio - I was baptised
derbyn yn llawn aelod - received as a full member
cynulleidfa - congregation
yn wefreiddiol - electrifying
afiechyd - ill-health
edrych yn syn - to look in bewilderment
prifathrawes - headmistress

...a'r hwiangerdd hyfryd Gee Ceffyl Bach yn fanna i gloi sgwrs ddiddorol iawn rhwng Lisa Gwilym a'r Doctor Mair Edwards am iaith babis. Awn ni draw i ben arall y sbectrwm oedran rwan i wrando ar ran o sgwrs rhwng Heledd Cynwal a Mary Bott, sydd bron â chyrraedd ei nawdeg oed. Mi gafodd Mary ei geni a'i magu yn Llundain, ac er bod ganddi acen cocni wrth siarad Saesneg, acen de-orllewin Cymru sy ganddi wrth siarad Cymraeg. Sut mae hynny wedi digwydd tybed? Cewch chi'r ateb wrth wrando ar y clip nesa ma...

Ìý

Dan Yr Wyneb - bywyd teuluol

bywyd teuluol - family life
yn dirywio - deteriorating
yn sylfaenol - essentially
mabwysiadu - adopting
uned gul a chyfyng - a narrow and limited unit
gweithwraig gymdeithasol - social worker (female)
ysgariadau - divorces
technoleg fodern - modern technology
cyfran fawr - a large proportion
hela amser - treulio amser

Dyna wych oedd gwrando ar Mary Bott yn fan'na yn cofio am ei phlentyndod yn Llundain, ac roedd hi'n sgwrs addas hefyd gan fod yr wythnos diwetha yn Wythnos y Bobl Hyn. Wel, dan wedi clywed gan Mary sydd bron yn nawdeg oed, ac wedi cael sgwrs am fabis ac mae hynny'n ffitio'n ddel efo'r clip nesa 'ma, sef sgwrs am fywyd teuluol. Mae hi'n Dymor y Teulu ar Â鶹ԼÅÄ Cymru ac mi fuodd Dylan Iorwerth yn gofyn i'r Dr Elin Jones a Delyth Lloyd Griffith, ai rhywbeth yn y gorffennol ydy bywyd teuluol?

Ìý

Geraint Lloyd - Cystadleuaeth aredig

cystadleuaethau aredig - ploughing competitions
beirniad - adjudicator
pencampwr - champion
cynrychioli - to represent
syndod o dda - surprisingly well
cynhesu - twymo
swyddogaeth bwysicach - a more important function
braint - privilege
cwys - furrow
agoriad - opening

Dylan Iorwerth yn fan'na yn cael barn y Dr Elin Jones a Delyth Lloyd Griffith am fywyd teuluol yn yr oes fodern. Ac rwan am rywbeth hollol wahanol. Be dach chi'n ei wybod am gystadlaethau aredig? Dim llawer? Wel dyma'ch cyfle chi i ddysgu rhywbeth newydd felly. Mi fuodd Geraint Lloyd mewn cystadleuaeth aredig yn Sir Benfro dros y penwythnos, a chael gair efo’r beirniad a’r pencampwr Emrys Owen...

Ìý

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Byd Iolo: Jon Gower

Nesaf

Byd Iolo: Rhiannon Bevan