Main content

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 11 Medi 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Daf a Caryl - Bryn Terfel

ffodus - lwcus
trwy hap a damwain - by chance
bedyddio - to baptise
cnewyllyn - nucleus
cyfeiliant cerddorfaol - orchestral accompaniment
o dras Cymreig - of Welsh extraction
cerddorfa - orchestra
anferthol - huge
byth a beunydd - constantly
unawdydd - soloist

"...efo clip o raglen Daf a Caryl. Wel, doedd Caryl ddim yna a dweud y gwir, roedd hi'n mwynhau ei gwyliau yn rhywle. Ond mi ges i gwmni Derfel (????) am yr wythnos, ac ar y dydd Llun mi gaethon ni'n dau sgwrs efo Bryn Terfel am ei album newydd 'Â鶹ԼÅÄward Bound'. Albwm ydy hon sy wedi ei recordio efo côr enwog y Mormoniaid, sef y Mormon Tabernacle Choir. Ond erbyn diwedd y sgwrs mi aethon ni i siarad am Abba, sut ddigwyddodd hynny tybed? "

Rhaglen Nia - Jac the Ripper

gwaith ymchwil - research
honni - to allege
darganfuwyd corff - a body was found
putain - prostitute
arswyd dychrynllyd - terrible fear
anfadwaith - foul play
llawfedddyg - surgeon
yr awgrym - the suggestion
beichiogi - to become pregnant
erthyliad - abortion

"Cofiwch, mae hi'n help bod yn Bryn Terfel os ydach chi eisiau hawl i ganu caneuon Benny Andersson! Roedd y sgwrs yn rhoi cip i ni ar sut fywyd sydd gan y sêr rhyngwladol yndoedd? Fedra i ddim meddwl am glip mwy gwahanol i hwnna, na'r un nesa dach chi'n mynd i'w glywed. Daeth Dyfrig Davies i'r stiwdio ddydd Mawrth i gael sgwrs efo Nia am Jack the Ripper. Mae hi'n gant dauddeg pump o flynyddoedd ers i'r llofrudd enwog grwydro strydoedd Llundain yn codi ofn ar bobl y ddinas. Ond ai Cymro oedd y dyn ofnadwy hwn? Mae gwaith ymchwil Tony Williams yn awgrymu mai Syr John Williams, Cymro, oedd Jack mewn gwirionedd. Be mae Dyfrig Davies yn feddwl o hynny? "ÌýÌý

Gig anodda Noel James - Blaenau Ffestiniog
Ìý
cymuned mor glòs - such a close community
pobl caib a rhaw - working class people
chwareli - quarries
balchder - pride
mentrau - enterprises
arbenigwyr y fro - local experts
ysbrydoliaeth - inspiration
delwedd - image
y cyfryngau - the media
siarad hwntw - siarad Cymraeg y de

"Well i ni symud i rywbeth bach ysgafn ar ol hynna, dw i'n meddwl! Ac mae gen i'r union beth i chi - rhaglen newydd y comedïwr Noel James.

Mae Noel yn ymweld â llefydd ar hyd a lled Cymru, nad ydy wedi perfformio ynddyn nhw o'r blaen. Y lle cyntaf ydy Blaenau Ffestiniog. Fydd o'n medru gwneud i bobol 'Stiniog chwerthin heb sôn am y tywydd tybed? Yn y clip cawn ni glywed rhai o bobl yr ardal, ac ychydig o gig gomedi Noel yn Nghanolfan Gelf Cell B yn y dre."

Cân y Babis (Daf a Caryl) - Delwyn Sion

cyfarch - to greet
addasu - to adapt
hwylio mor o gariad - sailing a sea of love
tywysogion - princes
marchogion - knights

"...a'r ddau glywon ni'n siarad am Flaenau yn fan'na oedd Vivien Parry Williams sydd yn hanesydd lleol, a Paul Thomas, cynghorydd lleol sydd yn gyn-aelod o Gwibdaith Hen Fran. Sgwn i oedd yna unrhyw fabis o ardal Blaenau Ffestiniog yn cael eu henwi ar Gân y Babis wythnos diwetha? Ia, mae hi'n ddechrau'r mis a Delwyn Siôn oedd yn cyfarch y trideg wyth o fabis y mis hwn, gan addasu un o'i hen ganeuon o - Joio byw. Joiwch, mae'n werth ei chlywed! "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf