Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 01/09/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Dewi Llwyd - Emyr Lewis a Ffald-y-Brenin

encil - retreat
llungopïo - photocopy
cymharol - relative
gwacter - emptiness
cwrdd - service (in a chapel)
preswyl - residential
naws - feel, mood
bendith - blessing
pelydrau - rays (i.e.sunrays)
heddwch mewnol - inner peace

a tybed faint ohonoch chi sydd wedi bod yn gwylio Pencampwriaeth Athletau'r Byd ar y teledu wythnos 'ma? Weloch chi Usain Bolt yn ennill y ras dau gan meter eto eleni? Anhygoel! Mae bywyd athletwyr a chwaraewyr o bob math yn un caled. Ond, sut mae bywyd chwaraewr proffesiynol ar ôl ymddeol? Fore Sul, cafodd Dewi Llwyd sgwrs ag Emyr Lewis am ei fywyd ar ôl ymddeol o chwarae rygbi. Enillodd Emyr bedwardeg un cap i Gymru, ond ar ôl ymddeol yn un naw naw chwech, bu'n gweithio fel gwerthwr i gwmnïau llungopïo. Ar ymweliad busnes i Ffald-y-Brenin, encil Cristnogol yn Sir Benfro, cafodd Emyr brofiad arbennig sydd wedi newid ei fywyd. Dyma Emyr i adrodd ei stori...

Tocyn am Ddim - Tony Bianchi - Y Fedal Ryddiaith

uchafbwyntiau - highlights
rhyddiaith - prose
thema - theme
ffugenw - pen-name
Mab Afradlon - the prodigal son
arwyddocâd - significance
dyheu - to yearn
brwydr - battle
ymgorffori - incorporate
gwedd newydd - new version

...Emyr Lewis, cyn chwaraewr rygbi Cymru, yn fan 'na yn siarad am ei ffydd Gristnogol. Un o uchafbwyntiau’r haf i mi oedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Un o brif wobrau'r eisteddfod ydy'r Fedal Ryddiaith. Enillydd y fedal eleni oedd Ton Babanwch, awdur sy'n dŵad yn wreiddiol o North Shields, Northumberland ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Enillodd Ton y Fedal am ddarn o ryddiaith heb fod dros bedwar deg mil o eiriau ar y thema Dwy neu Dau. Teitl ei waith oedd Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands. Cafodd Beti George sgwrs gyda Tony yn syth ar ôl y seremoni yn yr Eisteddfod. Does neb yn cystadlu dan eu henwau eu hunain yng nghystadlaethau ysgrifennu'r Eisteddfod. Mae'n rhaid i bawb gystadlu dan ffugenw er mwyn cadw enw'r enillydd yn gyfrinach. Gofynnodd Beti iddo pam ei fod wedi dewis y ffugenw Mab Afradlon...

Dylan Jones - Glenys a Bernard Malethan

ffaith - fact
prif wobrau - main prizes
cyfrinach - secret
gwersylla - camping
troeau - bends (i.e. in a road)
cael cathod bach - idiomatic prase expressing to have one's heart in one's mouth
sefyll yn y cof - to stick in one's memory
cul - narrow
ymddiheuro - apologize
cyfieithu - translate

...Tony Bianchi yn fan 'na yn saiarad ar ar ôl ennill y Fedal Ryddiaith eleni. Dw i'n siwr bod cadw'r ffaith eich bod wedi ennill un o brif wobrau'r Eisteddfod yn gyfrinach yn dipyn o her! Dach chi wedi bod ar wyliau dramor eleni? Be' sydd orau gynnoch chi; aros mewn gwesty neu wersylla? Fore Mercher cafodd Dylan Jones sgwrs efo Glenys a Bernard Malethan ar ôl iddyn nhw dreulio dwy flynedd a hanner yn teithio o gwmpas Ewrop mewn ‘motorhome’. Penderfynodd y ddau fynd i deithio ar ôl ymddeol o’u fferm yn Gwytherin ger Abergele. Mi welson nhw 24 o wledydd, a cwestiwn Dylan i Bernard a Glenys oedd beth oedd uchafbwyntiau’r ddau?

O’r Babell Lên - Anna Brychan - John Davies

haneswyr - historians
darlithio - to lecture
cyfrifol am - responsible for
nmyfyrwyr - students
neuadd breswyl - residential hall
plentyndod - childhood
talfyrru - to abbreviate
hewl - ffordd, lôn
maleisus - malicious
canol oed - middle aged

Mae dreifio yn Yr Eidal yn debyg iawn i ddreifio ar hyd y ffordd droellog i Lanberis, ddeudwn i! Ym mis Chwefror eleni, bu farw Dr John Davies, un o haneswyr mwyaf lliwgar a phoblogaidd Cymru. Pan roedd o'n darlithio yn Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd Dr John Davies hefyd yn Warden Neuadd Pantycelyn. Fel Warden, roedd o'n gyfrifol am y myfyrwyr oedd yn byw yn y neuadd breswyl ac roedd o a'i deulu yn byw yn neuadd gyda'r myfyrwyr. Dyma Anna Brychan, merch Dr John Davies, yn siarad gyda John Hardy am ei phlentyndod yn Neuadd Pantycelyn...

Mwy o negeseuon

Nesaf