Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Medi 9, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.Ìý

Huw Stephens - Gwyl Gwydir

Gwyl Gwydir - Gwydir festival
croesawu - welcome
taith - tour
uchafbwynt - highlight
ar y gorwel - on the horizon
seibiant bach - a litle break
canolbwyntio - to concentrate
canmol - praising
meddwol - drunken
haeddu - to deserve

...Gwyl Gwydir. Mae'r wyl hon yn un o nifer o wyliau cerddorol fuodd yng Nghymru dros yr haf - Gwyl Arall yng Nghaernarfon, Gwyl Gardd Goll ar Ynys Môn, ac yn y de mi gaethon ni wyl y Dyn Gwyrdd ac wrth gwrs yr wyl fwya ohonyn nhw i gyd - Yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r band SWnami wedi bod yn brysur iawr dros yr holl wyliau hyn ac mi roedden nhw'n canu yng Ngwyl Gwydir yn Llanrwst yr wythnos diwetha. Aeth Gwyn Eiddior draw yno ar ran rhaglen Huw Stephens ac mi gafodd o air efo rhai o aelodau'r band...


Cofio - Pont Menai

y ddamwain amlyca - the most famous accident
tywod - sand
y llanw - the tide
swn torcalonnus - heartbreaking sound
boddi - drowning
peiriannydd - engineer
wedi gadael ei ôl - has left his mark
pont grog - suspension bridge
cerrig sylfaen - foundation stones
pensaer - architect

...a Swnami wrth gwrs oedd y band glywon ni ar ddiwedd y clip yna. Arhoswn ni yn y gogledd am y clip nesa ma. Tasech chi wedi mynd i'r Wyl Gardd Goll eleni mae'n debyg y basech chi wedi croesi un o'r ddwy bont sy dros y Fenai. Pont Britannia ydy un ohonyn nhw, ond Pont Menai, neu Pont Borth, ydy'r un y gwelwch chi ei llun ar gardiau post. Un o bontydd Telford ydy'r bont wych hon, ac ar Cofio nos Fercher mi fuodd Maldwyn Thomas a Nia Roberts yn sgwrsio amdani...

Ìý

Bore Cothi - Pwyll ap Sion

cyfansoddwyr - composers
adolygu - review
cerddoriaeth gyfoes - contempary music
cysylltiad - connection
cerddorfa genedlaethol - national orchestra
llawysgrif - manuscript
Y Llyfrgell Gen(edlaethol) - The National Library
gosod yr alaw - set the tune
diweddglo - conclusion
cyfansoddi - to compose

Maldwyn Thomas a Nia Roberts yn fan'na yn rhoi chydig o hanes Pont Menai i ni. Mae Pwyll ap Sion yn un o gyfansoddwyr ifanc mwya talentog Cymru. Mi fuodd yn stiwdio Radio Cymru ddydd Mawrth i gael sgwrs efo Shan Cothi, ac yn ystod y sgwrs mi fuodd o'n dewis ei hoff ganeuon. 'Cain' gan Lois Eifion oedd un ohonyn nhw ac mi gewch chi glywed y gân yn union wedi'r sgwrs.

Ìý

Dylan Jones - Y Red Arrows

awyrgylch - atmosphere
yn gwbl anhygoel - totally incredible
arddangosfa - exhibition
cyflymder - speed
ar binau - on tenterhooks
sawl digwyddiad - several events
elwa - to profit
cynnal - to hold (an event)
yn fyw - live
llachar - bright

Cain gan Lois Eifion oedd honna - hawdd gweld pam bod Pwyll ap Sion wedi ei dewis i'w chwarae ar Bore Cothi, yntydy? MI roedd yna gyffro mawr yn ne Cymru yr wythnos diwetha wrth i Nato gyfarfod yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd. Fel rhan o'r croeso a rodddwyd i Barack Obama a nifer o arweinwyr eraill, mi fuodd y Red Arrows yn hedfan uwchben Bae Caerdydd cyn mynd ymlaen i hedfan dros Gasnewydd. Ar ran rhaglen Dylan Jones ddydd Gwener mi aeth Gwenllian Glyn i lawr i'r Bae a chael sgwrs efo Darren Bohana o Gaernarfon am y profaid o fod yno yn ystod y igwyddiad pwysig hwn...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gemau Agoriadol Ewro 2016

Nesaf

Addasrwydd Caeau 3G