Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Penderfyniad dilun

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 22:03, Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010

Go brin y bydd neb yn anghydweld â'r ffaith bod Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw yn haeddu ei le ar restr fer Llyfr y Flwyddyn.

A go brin bod amheuaeth ym meddwl fawr neb mai ef sy'n mynd i ennill.

Ond y mae rhywbeth yn waradwyddus yn y ffaith nad yw cyfraniad Marian Delyth i'r gyfrol yn cael ei ystyried dan reolau'r gystadleuaeth.

Rhan o glawr y llyfr

Fel y dywedwyd ddoe ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen, y geiriau yn unig sy'n cael eu hystyried yng nghyd-destun y gystadleuaeth afresymol hon.

Eto, dim ond fel cyfanwaith mae cyfrol o'i bath yn gweithio.
Wrth gwrs bod geiriau John Davies yn anhepgor ond dim tamaid mwy anhepgor na lluniau aruthrol Marian Delyth sydd yn cael ei henw ar y clawr.

Mae camp, crefft a chelfyddyd ei lluniau yn ysbrydoledig ac yn gymaint gorchest bob dydd a geiriau John Davies.

Eto fel "cyfrol gynhwysfawr John Davies" y mae'r Academi sy'n rhedeg y gystadleuaeth yn cyfeirio at y llyfr heb gydnabod cyfraniad Marian Delyth o gwbl.

Mae hynny'n sarhaus o warthus. Faint mae'r Academi a'i thri beirniaid yn ei dybio fyddai'n prynu'r llyfr heb y lluniau?

Llyfr y Flwyddyn yw enw'r gystadleuaeth nid cystadleuaeth Awdur y Flwyddyn ac mae hynny i bawb call yn golygu popeth sydd rhwng y ddau glawr.

Arwydd arall; pa mor ddryslyd a digynllun yw'r gystadleuaeth hon - er iddyn nhw gael digon o amser i gael trefn ar bethau ers ei sefydlu yn 1992.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.