Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ymateb cadeiriol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:27, Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010

Fel yr oedd rhywun yn rhagdybio ddoe mae ymateb yn barod i Gadair Eisteddfod Glynebwy.

Dyma rai o'r pethau a glywyd hyd yn hyn - a dim ond neithiwr oedden nhw'n ei dangos hi am y tro cyntaf erioed.

Cadair sy'n ennyn ymateb

  • "Iesgob!"
  • "Mi fydda hi wedi bod yn un dda ar gyfer Y Bala y llynedd - lle nad oedd yna neb yn deilwng."

  • "Mi fydd hi ar e-bay mis Awst."

  • "Mae hi fel un o'r awyrennau papur yna roeddem ni'n eu gwneud yn yr ysgol ers talwm."

  • "Gobeithio eu bod nhw wedi cadw'r risît."

  • "Lle mae o'n mynd i ista?"

  • "Dyna un fantais o gael Cadair wedi ei gwneud gan dri o bobl - mi fedran nhw roi'r bai ar ei gilydd."

Hyd yn hyn, ni chlywyd fawr ddim canmoliaeth . . . ond mae hawl i wneud hynny hefyd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:39 ar 16 Mehefin 2010, Owen Wyn ysgrifennodd:

    Bendith fwyaf y gadair hon yw ei bod yn amlwg yn plygu ac yn hawdd i fynd a hi adref yng nghefn y car. Canmoliaeth iddi am hynny!
    Ein gobaith mawr yw y bydd rhywun yn cael rhoi dwy foch ei din arni ar ba bynnag ddiwrnod y mae'r cadeirio erbyn hyn.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.