Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Deuoedd annwl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 17:20, Dydd Iau, 17 Mehefin 2010

Mae h'n rhyw fymryn o ffasiwn ar y funud i wneud pethau bob yn ddau yn y theatr Gymraeg.

Theatr Genedlaethol Cymru yn crwydro'r wlad yn perfformio dwy ddrama fer, Dau. Un. Un. Dim. gan Manon Wyn ac Yn y Tren gan Saunders Lewis a hynny gerbron cynulleidfaoedd o gyn lleied a 15 ac 20 o bobl - ond stori arall ydi honno.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol bydd dwy ddrama gan Aled Jones Williams, yn cael eu cyflwyno ar yr un noson - cynhyrchiad cwmni Tandem o Chwilys sydd eisoes wedi bod ar daith a chynhyrchiad Theatr Bara Caws o ddrama newydd gan y dramodydd, Merched Eira.

Nawr nid unrhyw amarch tuag at Aled Jones Williams yw dweud y byddai un ddrama ganddo ef yn ddigon i'w threulio ar unrhyw un noson.

O bosib mai un rheswm dros ddyblu'r gân fel hyn yw fod y dramâu yn fyrion - ond mewn gwirionedd os yw'r sylwedd yno fe fyddai'r gynulleidfa yn ddigon bodlon.

Yn wir, mae llawer i'w ddweud dros gadw'r pethau yma yn fyr a chanolbwyntio ar un peth. - er mae rhywun yn gorfod cydnabod bod Ar y Trên Saunders Lewis mor fyr na fyddai disgwyl i neb droi allan yn unswydd i'w gweld. hi a dim ond y hi

Ond bydd yn rhaid gochel rhag cael rhyw frech goch o ddramâu dwbwl.

Sôn am y Genedlaethol, gwelaf mai cyfieithiad Sharon Morgan o House of America Ed Thomas yw arlwy Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer y Brifwyl.

Mae gennym bob hawl i gredu y bydd trosiad Sharon yn rhagorol ond ai'r Eisteddfod Genedlaethol yw'r lle i'n cwmni cenedlaethol gynnig drama sy'n gyfieithiad o'r Saesneg y byddai llawer wedi ei gweld yn y gwreiddiol beth bynnag?

I'm meddwl i mae hwn yn enghraifft arall o ddiffyg gweledigaeth a dyfeisgarwch gan Theatr Genedlaethol Cymru.

Os oeddan nhw eisiau Sharon Morgan pam nad gofyn iddi sgwennu rhywbeth ei hun. Bu canmol mawr ar ei gwaith yn y gorffennol ac mae'n un sydd bob amser a rhywbeth i'w ddweud ar lwyfan.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, o bobman, y mae cyfle i arloesi - arbrofi hyd yn oed - gyda rhywbeth newydd, cyffrous a beiddgar nad yw'n gawl eildwym. Rhywbeth na all cyfieithiad fod gyda'r ewyllys gorau yn y byd.

Truenui.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:29 ar 18 Mehefin 2010, Owen Wyn ysgrifennodd:

    Rhag rhoi camargraff fod y cynulleidfaoedd i gyd wedi bod yn fach dwi'n deall fod Galeri Caernarfon yn llawn ar ddiwedd y daith.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.