鶹Լ

Gorfodi cyfraith a threfnPlismona yn yr 20fed a’r 21ain ganrif: newidiadau

Cyn y 19eg ganrif nid oedd yna heddluoedd oedd yn cael eu cyllido gan y wladwriaeth. Yn yr oes fodern, mae gennym heddluoedd ym mhob rhan o’r wlad. Sut mae’r cyfrifoldeb yma am orfodi cyfraith a threfn wedi newid gydag amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Natur newidiol plismona yn yr 20fed a’r 21ain ganrif

Strwythur newidiol heddluoedd

Yn 1900 roedd yna 181 o heddluoedd ym Mhrydain. Roedd nifer o’r rhain yn fach ac roedd gan bob un wahanol strwythurau, dulliau a chofnodion. Doedd dim llawer o gysylltiad rhyngddyn nhw.

Map sy’n dangos lleoliad pedwar o heddluoedd Cymru.
Figure caption,
Pedwar heddlu Cymru

Heddlu De Cymru yw’r un mwyaf yng Nghymru, a dyma’r seithfed mwyaf yn y DU. Fe’i ffurfiwyd yn 1969 pan unodd Heddlu Morgannwg â Heddlu Dinas Caerdydd, Heddlu Bwrdeistref Merthyr Tydfil a Heddlu Bwrdeistref Abertawe.

Yn 2006 awgrymwyd y dylai pedwar heddlu Cymru uno i ffurfio un heddlu. Nid yw hynny wedi digwydd eto.

Swyddogion yr heddlu

Mae nifer swyddogion yr heddlu wedi cynyddu yn ystod yr 20fed a’r 21ain ganrif. Roedd yna dros 125,000 o swyddogion erbyn 2000. Mae’r heddlu wedi recriwtio swyddogion benywaidd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Sofia Stanley oedd y ferch gyntaf i gael ei recriwtio’n swyddogol gan Heddlu Metropolitan yn 1919. Yn ddiweddar ceisiwyd cynyddu nifer y swyddogion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Sefydlwyd Coleg Hyfforddi Cenedlaethol yr Heddlu yn 1947. Erbyn hyn mae swyddogion yr heddlu yn derbyn mwy o arweiniad ac yn derbyn 14 wythnos o hyfforddiant cyn iddynt ddechrau arni.

Pwrpas plismona

Mae pwrpas yr heddlu wedi newid yn yr oes fodern. Ar y cychwyn, rôl yr heddlu oedd:

  • patrolio’r strydoedd
  • atal troseddwyr
  • ymchwilio i droseddau
  • arestio rhai dan amheuaeth

Erbyn hyn mae eu rôl a’u pwrpas yn canolbwyntio’n gynyddol ar atal troseddu. Mae gan bob heddlu Swyddogion Atal Troseddu sy’n ymweld ag ysgolion ac yn mynychu cyfarfodydd cymunedol megis PACT.

Arwydd Gwarchod Cymdogaeth ar bostyn lamp.

Mae’r heddlu yn ceisio meithrin mwy o gysylltiadau â’r gymuned, yn arbennig ar ôl i lawer o reiadau yn ystod y 1980au gael eu hanelu at yr heddlu. Mae’r heddlu yn gysylltiedig â chynllun Gwarchod Cymdogaeth a ddechreuwyd yn 1982.

Ond yn ddiweddar mae’r heddlu wedi ymdrechu i gael eu gweld allan o’u ceir ac 'ar y bît', neu ar feiciau. Yn aml, nid dyma’r ffordd orau o ganfod troseddau a dal troseddwyr, ond mae’n rhoi sicrwydd i’r cyhoedd. Mae hyn yn dangos bod un o’u prif bwrpasau wedi aros yr un fath, sef patrolio’r strydoedd.