麻豆约拍

Sefydlu Heddlu Metropolitan

Deddf Heddlu Metropolitan 1829 sefydlodd Heddlu Metropolitan yng nghanol Llundain. Roedden nhw'n gofalu am ardal 芒 radiws o saith milltir o鈥檙 canol ac roedd hyn yn newid radical yn y cyfrifoldeb am orfodi cyfraith a threfn. Roedd Ceidwaid Bow Steet yn parhau i batrolio eu hardal, a鈥檙 tu allan i鈥檙 radiws o saith milltir nid oedd gan yr heddlu ddim awdurdod.

Er mai dim ond ar gyfer canol Llundain oedd yn y gyfraith hon, roedd hi'n bwysig gan mai dyma ddechrau'r heddlu modern.

Llun du a gwyn o 1808 yn dangos Scotland Yard, wedi ei leoli ym Mwrdeistref San Steffan, Llundain, a ddaeth yn bencadlys llu heddlu cyntaf Llundain yn 1829
Image caption,
Roedd prif swyddfa Heddlu Metropolitan yn 4 Whitehall Place, sef t欧 a oedd 芒 mynedfa gefn i Scotland Yard

Deddf Heddlu Metropolitan 1839

Roedd y ddeddf hon yn ymestyn ardal Heddlu Metropolitan i radiws o 15 milltir o ganol Llundain. Roedd hefyd yn diddymu awdurdod pob dull arall o blismona yn Llundain, megis Ceidwaid Bow Street, heddlu鈥檙 afon a Gwarchodwyr. Cynyddodd y niferoedd yn gyflym, ac erbyn 1882 roedd 11,700 o ddynion yn yr Heddlu Metropolitan.

Ymestyn heddluoedd ar draws y wlad yn y 19eg ganrif

Ar 么l i鈥檙 llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am blismona ym mhrifddinas Lloegr drwy greu Heddlu Metropolitan, trowyd y sylw i weddill y wlad.

Roedd cyfres o ddeddfau yn rhoi grym i gynghorau sir a bwrdeistref ar draws y wlad i sefydlu heddluoedd yn eu hardaloedd:

  • Rhoddodd Deddf Corfforaethau Trefol 1835 b诺er i drefi y tu allan i Lundain sefydlu eu heddluoedd eu hunain.
  • Rhoddodd Deddf Heddlu Sirol 1839 b诺er i bob sir sefydlu eu heddluoedd eu hunain.

Nid oedd y ddwy ddeddf yn orfodol ac roedd cynghorau鈥檔 gallu eu hanwybyddu. Dim ond tua hanner yr ardaloedd oedd 芒鈥檙 gallu i sefydlu heddlu fanteisiodd ar y deddfau.

  • Gorfododd Deddf Heddlu Sirol a Bwrdeistrefi 1856 i bob tref a sir sefydlu heddlu cyflogedig llawn amser. Roedd y ddeddf yn dweud y dylid cael un heddwas am bob 1,000 o bobl. Byddai鈥檙 Ysgrifennydd Cartref yn penodi Arolygwyr yr Heddlu i wneud yn sicr bod pawb yn ufuddhau i鈥檙 gyfraith ar draws y wlad. Pan fo tref neu sir yn sefydlu heddlu oedd yn dderbyniol gan yr Arolygwyr, roedd y llywodraeth yn talu peth o gostau鈥檙 heddlu, ac roedd y gweddill yn dod o drethi lleol.

Arweiniodd y deddfau yma at sefydlu cannoedd o heddluoedd ar draws y wlad. Nid oedd yr heddlu (ac nid ydyn nhw hyd heddiw) yn un heddlu unedig - roedden nhw'n heddluoedd ar wah芒n ar gyfer pob rhan o鈥檙 wlad.

Yr unig heddlu a reolwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref yn Llundain oedd Heddlu Metropolitan. Roedd gan bob heddlu brif gwnstabl, swyddogion a chwnstabliaid.

Erbyn hyn roedd plismona yn nwylo adrannau llywodraeth ganolog a lleol.

Ffotograff du a gwyn ansawdd isel o chwe phlismon mewn gwisg yr heddlu yn eistedd ar gyfer y camera
Image caption,
Aelodau o Heddlu Morgannwg yn 1901 LLUN: Ross Mather