鶹Լ

Defnyddio lluosyddion – haenau canolradd ac uwch

Mae defnyddio lluosyddion yn ffordd fwy effeithiol o gyfrifo cynnydd neu leihad canrannol. Mae’n golygu canfod rhif y gelli luosi ag ef, sy’n cynrychioli’r newid canrannol.

Pa luosydd fyddai’n cynrychioli cynnydd o 29%?

Byddai cynnydd o 29% yn arwain at werth o 100% + 29% = 129%

Fel ffracsiwn, byddai hwn yn cael ei ysgrifennu fel \(\frac {129} {100}\).

Mae hyn yr un fath â 1.29.

Felly mae lluosi â 1.29 yr un fath â chynyddu gwerth 29%.

Question

Mae buddsoddiad Suzie o £200 yn cynyddu 3%. Gan ddefnyddio lluosyddion, beth yw gwerth ei buddsoddiad nawr?

Pa luosydd fyddai’n cynrychioli lleihad o 7.3%?

Byddai lleihad o 7.3% yn arwain at werth o 100% - 7.3% = 92.7%.

Fel ffracsiwn, byddai hwn yn cael ei ysgrifennu fel \(\frac {92.7} {100}\).

Mae hyn yr un fath â 0.927.

Felly, mae lluosi â 0.927 yr un fath â lleihau gwerth 7.3%.

Question

Mae Adele yn mynd i deithio gyda £1,500 ac mae’n gwario 65% o’i chynilion. Gan ddefnyddio lluosyddion, cyfrifa faint o arian sydd ganddi ar y diwedd.