鶹Լ

Newid canrannol – haenau canolradd ac uwch

Cynyddu neu leihau yn ôl canran benodol

  1. Cyfrifa’r ganran dan sylw
  2. Adia neu tynna’r ganran fel bo’r angen

Question

Mae landlord yn codi ei brisiau rhent 5%. Faint fydd fflat dwy ystafell wely sy’n £350 y mis yn ei gostio ar ôl y cynnydd?

Question

Mae siop yn tynnu 15% oddi ar bris eu holl stoc. Faint fyddai siaced, a oedd yn costio £60, nawr yn ei gostio yn y sêl?

Canfod y gwerth gwreiddiol ar ôl cynnydd canrannol

Enghraifft

Mae potel o lemonêd nawr yn hysbysebu ei bod 50% yn fwy. Os yw’n 750 ml nawr, beth oedd ei chyfaint gwreiddiol?

Potel o lemonêd â label yn hysbysebu ei bod bellach 50% yn fwy

Ateb

  1. Cychwynna gyda’r cyfaint gwreiddiol yn 100%
  2. Mae’r cyfaint newydd 50% yn fwy na hyn: 100% + 50% = 150%
  3. 150% = 750 ml. Gallwn rannu â 150 i ganfod 1%
  4. 1% = 5 ml. Gallwn nawr luosi â 100 i ganfod 100%, sef y cyfaint gwreiddiol
  5. 100% = 500 ml

Question

Ar ôl codi 9% yn ei bris, mae teledu’n costio £495. Faint oedd e’n ei gostio’n wreiddiol?

Canfod y gwerth gwreiddiol ar ôl lleihad canrannol

Enghraifft

Mae 20% o’r afalau mewn cynhaeaf wedi llwydo ac yn cael eu taflu, gan adael 360 o afalau da. Faint oedd yn y cynhaeaf?

Ateb

  1. Cychwynna gyda’r cynhaeaf gwreiddiol yn 100%
  2. Mae’r afalau nawr 20% yn llai: 100% - 20% = 80%
  3. 80% = 360 afal. Gallwn rannu ag 80 i ganfod 1%
  4. 1% = 4.5 afal. Os byddwn ni nawr yn lluosi â 100, byddwn yn canfod 100%, sef maint y cynhaeaf gwreiddiol.
  5. 100% = 450 afal

Question

zxxcj6f Mae cwmni cynhyrchu byrbrydau wedi gwneud pwysau ei bacedi creision 15% yn llai. Maen nhw nawr yn pwyso 51 g. Faint oedden nhw’n ei bwyso’n wreiddiol?