Profion am nwyon
Gallwn ni ddefnyddio gwahanol brofion i ganfod hydrogen, ocsigen a charbon deuocsid.
Hydrogen
Mae rhoi fflam o sblint sy'n llosgi mewn tiwb profi o hydrogen yn gwneud sŵn 'pop gwichlyd'.
Ocsigen
Mae rhoi sblint pren sy'n mudlosgi mewn tiwb profi o ocsigen yn achosi i'r sblint danio eto.
Carbon deuocsid
Mae gyrru swigod carbon deuocsid drwy dŵr calchHydoddiant calsiwm hydrocsid. Mae’n troi’n llaethog ym mhresenoldeb carbon deuocsid. yn newid ei liw o ddi-liw i ‘laethog’ oherwydd bod gwaddod gwyn calsiwm carbonad yn ffurfio.