鶹Լ

Cyfansoddiad yr atmosffer

Yr atmosffer cynnar

Mae gwyddonwyr yn credu bod y Ddaear wedi ffurfio tua 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl, a bod gweithgarwch folcanig dwys wedi digwydd am y biliwn mlynedd gyntaf o fodolaeth y Ddaear. Mae'n debyg bod yr atmosffer cynnar wedi ffurfio o nwyon wedi'u allyrru o losgfynyddoedd. Carbon deuocsid, anwedd dŵr ac amonia sy'n ffurfio'r gyfran fwyaf o nwyon folcanig.

Wrth i'r Ddaear oeri, y rhan fwyaf o'r anwedd dŵr i ffurfio'r cefnforoedd.

Rydyn ni'n meddwl bod atmosfferau Mawrth a Gwener heddiw, sy'n garbon deuocsid gan fwyaf, yn debyg i atmosffer cynnar y Ddaear.

Dydy gwyddonwyr ddim yn siŵr am yr atmosffer cynnar, ac maen nhw'n dibynnu ar dystiolaeth o ffynonellau eraill. Er enghraifft, mae llosgfynyddoedd yn rhyddhau llawer o garbon deuocsid. Mae haearn yn bodoli mewn creigiau hen iawn, ac allai'r rhain ddim bod wedi ffurfio oni bai bod ocsigen yn brin iawn neu ddim i'w gael ar y pryd.

Newidiadau i'r atmosffer

Felly sut aeth cyfran y carbon deuocsid, y methan a'r amonia yn yr atmosffer i lawr, a chyfran ocsigen i fyny?

  • Cynyddodd cyfran yr ocsigen oherwydd gan blanhigion.
  • Lleihaodd cyfran yr amonia wrth iddo adweithio â'r ocsigen oedd newydd ffurfio yn yr atmosffer i ffurfio nitrogen ac anwedd dŵr.
  • Lleihaodd cyfran y methan wrth iddo adweithio â'r ocsigen oedd newydd ffurfio i ffurfio carbon deuocsid a dŵr.

Lleihaodd cyfran y carbon deuocsid oherwydd:

  • cafodd ei gloi mewn oedd yn ffurfio o gregyn anifeiliaid morol (fel calchfaen a sialc) ac mewn
  • cafodd ei amsugno gan blanhigion ar gyfer ffotosynthesis
  • roedd yn hydoddi yn y cefnforoedd

Mae llosgi tanwyddau ffosil yn ychwanegu carbon deuocsid at yr atmosffer yn gyflymach nag y gallwn ni ei dynnu oddi yno. Mae hyn yn golygu bod lefel carbon deuocsid yn yr atmosffer yn cynyddu.

Yr atmosffer cyfoes

Mae'r aer yn gymysgedd o nwyon. Mae faint o anwedd dŵr sydd yn yr aer yn amrywio o le i le, ac o ddydd i ddydd. Am y rheswm hwn, cyfrannau'r nwyon mewn aer sych rydyn ni'n eu rhoi fel arfer.

yw rhai o'r nwyon yn yr aer:

  • nitrogen, N2
  • ocsigen, O2
  • argon, Ar
  • neon, Ne

Mae'n bwysig nodi bod y nwyon hyn yn gallu cael eu hechdynnu o'r aer a'u defnyddio mewn sawl ffordd drwy ddefnyddio distyllu ffracsiynol.

Cyfansoddion yw rhai, gan gynnwys:

  • carbon deuocsid, CO2
  • anwedd dŵr, H2O
Siart cylch yn dangos bod aer wedi'i wneud o nitrogen (78%), ocsigen (21%) a nwyon eraill, gan gynnwys argon (0.9%) a charbon deuocsid (0.04%).

More guides on this topic