Hydoddedd solidau
Os yw sylwedd yn hydawddYn gallu hydoddi mewn hydoddydd. Er enghraifft, mae siwgr yn hydawdd mewn dŵr am ei fod yn hydoddi i greu hydoddiant siwgr. bydd yn hydoddi mewn swm penodol o hylif, sef yr ‘hydoddyddYr hylif y mae’r hydoddyn yn hydoddi ynddo i greu hydoddiant.’.
Pan nad oes modd hydoddi hydoddyn mewn hydoddydd, yna mae'r hydoddiant yn cael ei alw'n ddirlawn.
Mae gan bob sylwedd hydoddedd gwahanol. Mae’r tabl hwn yn dangos hydoddedd sylweddau mewn dŵr ar 20°C. Mae hydoddedd wedi’i ddangos mewn gramau o hydoddyn i bob 100 g o ddŵr.
Hydoddyn | Hydoddedd |
Sodiwm clorid | 35.9 |
Copr(II) sylffad | 32 |
Sodiwm hydrogencarbonad | 10 |
Plwm(II) ïodid | 0.07 |
Plwm(II) nitrad | 54 |
Hydoddyn | Sodiwm clorid |
---|---|
Hydoddedd | 35.9 |
Hydoddyn | Copr(II) sylffad |
---|---|
Hydoddedd | 32 |
Hydoddyn | Sodiwm hydrogencarbonad |
---|---|
Hydoddedd | 10 |
Hydoddyn | Plwm(II) ïodid |
---|---|
Hydoddedd | 0.07 |
Hydoddyn | Plwm(II) nitrad |
---|---|
Hydoddedd | 54 |
Mesur hydoddedd
I gyfrifo hydoddedd solid mewn dŵr, rydyn ni’n defnyddio’r dull canlynol.
- Mesur yn fanwl gywir 100 cm3 o ddŵr a’i roi mewn bicer.
- Ychwanegu symiau bach o’r hydoddyn nes does dim mwy’n gallu hydoddi.
- Cofnodi màs dysgl anweddu.
- Hidlo’r cymysgedd fel bod y solid sydd heb hydoddi’n cael ei adael ar ôl a’r hydoddiant yn y ddysgl anweddu.
- Gwresogi neu anweddu i gael gwared â’r dŵr.
- Pwyso’r ddysgl anweddu gyda’r hydoddyn ynddi a chyfrifo màs yr hydoddyn oedd wedi hydoddi.