Â鶹ԼÅÄ

¶Ùŵ°ù caled a meddal

Mae’r dŵr mewn rhai rhannau o’r wlad yn feddal, ac mae’r dŵr mewn rhannau eraill o’r wlad yn galed.

Mae dŵr caled yn cynnwys magnesiwm (Mg2+) ac ï´Ç²Ô²¹³Ü calsiwm (Ca2+) wedi hydoddi, sy’n gallu mynd i’r dŵr wrth iddo ddod i gysylltiad â chalchfaen a chreigiau eraill sy’n cynnwys calsiwm. Mae hyn yn gallu digwydd, er enghraifft, wrth i ddŵr glaw lifo dros greigiau ar ei ffordd i mewn i gronfa ddŵr.

Caledwch dros dro

Rydyn ni’n cael gwared â chaledwch dros dro drwy ferwi’r dŵr. Mae berwi dŵr caled dros dro yn ffurfio haen o . Mae hwn yn gallu gorchuddio’r elfen wresogi mewn tegellau a heyrn smwddio, er enghraifft, gan eu gwneud nhw’n llai effeithlon. Mae calchgen yn hyll ac mae’n gallu tagu pibellau dŵr poeth a boeleri.

Calch ar degell

[Haen uwch yn unig]

Calsiwm hydrogencarbonad, Ca(HCO3)2, wedi hydoddi sy’n achosi caledwch dros dro.

Mae dŵr glaw yn naturiol oherwydd mae’n cynnwys carbon deuocsid wedi hydoddi o’r aer. Mae’n adweithio â chalsiwm carbonad mewn creigiau i ffurfio calsiwm hydrogencarbonad (sy’n hydawdd):

calsiwm carbonad + dŵr + carbon deuocsid → calsiwm hydrogencarbonad

CaCO3(s) + H2O(h) + CO2(n) → Ca(HCO3)2(dyfr)

Pan mae dŵr caled dros dro’n cael ei ferwi, mae’r calsiwm hydrogencarbonad hydawdd yn dadelfennu (torri i lawr) i ffurfio calsiwm carbonad (sy’n anhydawdd), dŵr a charbon deuocsid:

calsiwm hydrogencarbonad → calsiwm carbonad + dŵr + carbon deuocsid

Ca(HCO3)2(dyfr) → CaCO3(s) + H2O(h) + CO2(n)

Y calsiwm carbonad anhydawdd sy’n ffurfio’r calch.

Caledwch parhaol

Calsiwm sylffad (CaSO4) wedi hydoddi sy’n achosi caledwch parhaol. Dydy hwn ddim yn dadelfennu (torri i lawr) wrth gael ei wresogi.

Felly, yn wahanol i galedwch dros dro, allwn ni ddim cael gwared â chaledwch parhaol drwy ferwi’r dŵr.

Manteision ac anfanteision dŵr caled

Manteision

  • Mae’n well gan rai pobl y blas.
  • Mae calsiwm yn cryfhau dannedd ac esgyrn plant.
  • Helpu i leihau clefyd y galon.
  • Mae’n well gan rai bragwyr a phobyddion ddŵr caled.

Anfanteision

  • Anodd ffurfio trochion gyda sebon.
  • Mae llysnafedd yn ffurfio ac yn gwastraffu sebon.
  • Mae calchgen yn ffurfio mewn offer fel tegellau a pheiriannau golchi dillad a llestri - mae hyn yn arafu prosesau trosglwyddo gwres, gan eu gwneud nhw’n llai effeithlon.
  • Mae pibellau dŵr poeth yn mynd yn ‘flewog’ ac yn gallu cael eu blocio.

More guides on this topic