鶹Լ

Effaith catalyddion

Gallwn ni gynyddu cyfradd adwaith drwy ychwanegu addas.

Dim ond swm bach iawn o gatalydd sydd ei angen i gynyddu cyfradd adwaith rhwng symiau mawr o adweithyddion.

Mae catalydd yn benodol i adwaith penodol:

  • mae gwahanol gatalyddion yn catalyddu gwahanol adweithiau
  • does dim catalydd addas i bob adwaith
Graff yn dangos pa mor effeithiol yw Manganîs (IV) ocsid, Copr (II) ocsid a Sinc ocsid fel catalyddion ar gyfer dadelfennu hydrogen perocsid.
Figure caption,
Graff yn dangos pa mor effeithiol yw gwahanol ocsidau metel fel catalyddion ar gyfer dadelfennu hydrogen perocsid

Mae’r tabl hwn yn crynhoi rhai catalyddion cyffredin sy’n cael eu defnyddio mewn diwydiant a’r adweithiau maen nhw’n eu catalyddu.

CatalyddAdwaith mae’n ei gatalyddu
HaearnGwneud amonia o nitrogen a hydrogen
PlatinwmGwneud asid nitrig o amonia
Fanadiwm(V) ocsidGwneud asid sylffwrig
CatalyddHaearn
Adwaith mae’n ei gatalydduGwneud amonia o nitrogen a hydrogen
CatalyddPlatinwm
Adwaith mae’n ei gatalydduGwneud asid nitrig o amonia
CatalyddFanadiwm(V) ocsid
Adwaith mae’n ei gatalydduGwneud asid sylffwrig

More guides on this topic