Effaith tymheredd ar gyfradd
Gallwn ni newid cyfradd adwaith cemegol drwy newid y tymheredd. Os ydyn ni’n cynyddu’r tymheredd:
- mae gronynnau’r adweithyddion yn symud yn gyflymach
- mae ganddyn nhw fwy o egni
- ’r gronynnau’n gwrthdaro’n amlach ac yn fwy llwyddiannus
- mae cyfradd yr adwaith yn cynyddu
- [haen uwch yn unig] mae hyn oherwydd bod gan fwy o ronynnau egni sy’n fwy na neu’n hafal i’r egni actifaduIsafswm yr egni sydd ei angen ar ronynnau er mwyn iddyn nhw adweithio wrth wrthdaro.
Dyma sut mae llinell graff adwaith ar dymheredd uwch yn wahanol i linell yr un adwaith ar dymheredd is:
- ’r graddiantMewn graff, y graddiant ydy goledd y llinell. Po fwyaf ydy’r graddiant, po fwyaf fydd cyfradd y newid. yn fwy serth i ddechrau
- mae’n mynd yn llorweddol yn gynt
Mae hyn yn dangos bod cyfradd yr adwaith yn fwy ar y tymheredd uwch.