Mesur cyfradd wrth gynhyrchu gwaddod
Mae’r cyfarpar sydd ei angen yn dibynnu ar y cyfarpar sydd ar gael.
Archwilio
Gallwn ni fesur y gyfradd drwy roi cynhwysydd yr adwaith ar ben ‘X’ du cyn ychwanegu’r cemegion at ei gilydd (mae enghraifft yn y diagram isod). Drwy fesur yr amser tan nad wyt ti’n gallu gweld yr X oherwydd bod y gwaddod wedi ffurfio, galli di gyfrifo’r gyfradd gan ddefnyddio’r hafaliad.
Cyfradd = 1 ÷ (amser mae’n ei gymryd i’r X ddiflannu)
Defnyddio synhwyrydd golau
Gallwn ni fesur yn uniongyrchol faint o olau sy’n mynd drwy’r adwaith gan ddefnyddio synhwyrydd golau a chofnodydd data. Yna, gallwn ni gyfrifo’r gyfradd drwy ddefnyddio’r synhwyrydd golau i ganfod pa mor hir mae’n ei gymryd i lefel y golau stopio lleihau.
Manteision archwilio/anfanteision synhwyrydd golau:
- mae synwyryddion golau’n fwy drud ac felly efallai na fydd un ar gael yn rhwydd
- mae’n bosibl y gallai golau o’r ystafell ymyrryd â chanlyniadau’r synhwyrydd golau
Manteision synhwyrydd golau/anfanteision archwilio:
- mae synwyryddion golau’n gallu darparu data’r adwaith cyfan, felly gallwn ni gyfrifo cyfradd yr adwaith ar unrhyw adeg yn ystod yr adwaith
- gallwn ni fesur cyfradd yr adwaith yn fwy manwl gywir