Â鶹ԼÅÄ

Cyfrifiadau egni bond

Galli di ddefnyddio egnïon bond cyfartalog i gyfrifo’r newid egni mewn adwaith. Yr egni bond yw faint o egni sydd ei angen i dorri un o fond penodol.

Cyfrifo egni bond

  1. Adio egnïon bond pob bond yn yr – dyma’r ‘egni i mewn’.
  2. Adio egnïon bond pob bond yn y – dyma’r ‘egni allan’.
  3. Cyfrifo’r newid egni = egni i mewn – egni allan.

Enghraifft wedi’i chyfrifo – adwaith ecsothermig

Mae hydrogen a chlorin yn adweithio i ffurfio nwy hydrogen clorid:

±á−H + °ä±ô−C±ô → 2 × (±á−C±ô)

BondEgni bond (kJ/mol)
±á−H436
°ä±ô−C±ô243
±á−C±ô432
Bond±á−H
Egni bond (kJ/mol)436
Bond°ä±ô−C±ô
Egni bond (kJ/mol)243
Bond±á−C±ô
Egni bond (kJ/mol)432
  1. Egni i mewn = 436 + 243 = 679 kJ/mol (dyma’r egni sy’n cael ei amsugno wrth i fondiau’r adweithyddion dorri).
  2. Egni allan = 2 × 432 = 864 kJ/mol (dyma’r egni sy’n cael ei ryddhau wrth i fondiau’r cynhyrchion ffurfio).
  3. Newid egni = mewn – allan = 679 – 864 = –185 kJ/mol

Mae’r newid egni’n negatif, oherwydd y ffaith bod yr egni sy’n cael ei ryddhau wrth i’r bondiau ffurfio’n fwy na’r egni sy’n cael ei amsugno wrth i’r bondiau dorri.

Mae hyn yn golygu bod egni’n cael ei ryddhau i’r amgylchoedd mewn adwaith .

Enghraifft wedi’i chyfrifo – cyfrifo egni bond [Haen uwch yn unig]

Mae hydrogen yn adweithio ag ïodin i ffurfio hydrogen ïodid.

±á−H + ±õ−I → 2 × (H–I)

BondEgni bond (kJ/mol)
±á−I?
±á−H436
±õ−I151
Bond±á−I
Egni bond (kJ/mol)?
Bond±á−H
Egni bond (kJ/mol)436
Bond±õ−I
Egni bond (kJ/mol)151

Newid egni’r adwaith hwn yw –3 kJ/mol. Cyfrifa egni bond y bond H–I.

  1. Egni i mewn = 436 + 151 = 587 kJ/mol
  2. Egni allan = 2 × (egni bond H–I) = 2(H–I)
  3. Newid egni = mewn – allan = 587 – 2(H–I) = –3 kJ/mol
  4. Ad-drefnu i: 2(H–I) = 587 + 3 = 590 kJ/mol
  5. Felly: (H–I) = 590 ÷ 2 = 295 kJ/mol