Â鶹ԼÅÄ

Adweithiau ecsothermig ac endothermig

Pan mae adwaith cemegol yn digwydd, mae egni’n cael ei drosglwyddo i’r amgylchoedd neu o’r amgylchoedd. Mae newid tymheredd yn digwydd fel arfer. Er enghraifft, pan mae coelcerth yn llosgi mae’n trosglwyddo egni gwres i’r amgylchoedd. Mae gwrthrychau sy’n agos at goelcerth yn cynhesu. Gallwn ni fesur y newid tymheredd â thermomedr.

Adweithiau ecsothermig

Mae’r adweithiau hyn yn trosglwyddo egni i’r amgylchoedd (hynny yw, mae’r egni’n llifo allan o’r adwaith). Mae’r egni fel arfer yn cael ei drosglwyddo ar ffurf egni gwres, ac mae hyn yn gwneud i gymysgedd yr adwaith a’r amgylchoedd fynd yn boethach. Rydyn ni’n defnyddio thermomedr i ganfod y cynnydd tymheredd.

Dyma rai enghreifftiau o adweithiau :

  • hylosgi (llosgi)
  • adweithiau rhwng ac
  • yr adwaith rhwng dŵr a chalsiwm ocsid
Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 2, Arllwys hydoddiant sodiwm hydrocsid i mewn i ficer o asid hydroclorig sy'n cynnwys thermomedr sy'n dangos tymheredd ystafell., 1. Arllwys hydoddiant sodiwm hydrocsid i mewn i ficer o asid hydroclorig sy’n cynnwys thermomedr sy’n dangos tymheredd ystafell

Adweithiau endothermig

Mae’r adweithiau hyn yn cymryd egni o’r amgylchoedd (hynny yw, mae’r egni’n llifo i mewn i’r adwaith). Mae’r egni fel arfer yn cael ei drosglwyddo ar ffurf egni gwres, ac mae hyn yn gwneud i gymysgedd yr adwaith a’r amgylchoedd fynd yn oerach. Rydyn ni’n defnyddio thermomedr i ganfod y gostyngiad tymheredd.

Dyma rai enghreifftiau o adweithiau endothermig:

  • yr adwaith rhwng asid ethanöig a sodiwm carbonad
  • calsiwm carbonad mewn ffwrnais chwyth

Mae’r sioe sleidiau’n dangos adwaith endothermig rhwng sodiwm carbonad ac asid ethanöig.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 2, Gollwng powdr sodiwm carbonad i mewn i ficer o asid ethanöig sy'n cynnwys thermomedr sy'n dangos tymheredd ystafell., 1. Gollwng powdr sodiwm carbonad i mewn i ficer o asid ethanöig sy’n cynnwys thermomedr sy’n dangos tymheredd ystafell