鶹Լ

Mi fydd pobl ar draws Cymru yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr. Mi fydd cardiau yn cael eu danfon, prydau bwyd rhamantus yn cael eu bwyta a llwyau caru yn cael eu rhoi i gariadon. Ond pam ydyn ni'n dathlu'r diwrnod yma? Pwy oedd Dwynwen? Pam ei bod hi'n cael ei hystyried fel Santes y Cariadon?

Gwellt wedi ei blygu i ffurfio siâp calon ar bostyn

Dwynwen, ferch Brychan Brycheiniog

Efallai byddwch yn synnu o glywed nad oedd Dwynwen wedi cael llawer o lwc mewn cariad ei hun!

Mae hanes Dwynwen yn mynd yn ôl i'r pumed ganrif ac fel cynifer o hen straeon poblogaidd mae sawl fersiwn o'i hanes. Yn ôl y sôn, roedd Dwynwen yn ferch i'r brenin Brychan Brycheiniog ac yn dod o Aberhonddu yn wreiddiol. Mae rhai'n dweud bod gan Brychan 24 merch a fersiynau eraill o'r hanes yn awgrymu bod ganddo 36 merch. Roedd Dwynwen yn cael eu hystyried fel yr harddaf o holl ferched Brychan - felly tipyn o gamp!

Syrthiodd Dwynwen mewn cariad gyda Maelon, mab i frenin arall. Roedd y ddau am briodi ond roedd gan ei thad gynlluniau eraill. Roedd Brychan Brycheiniog eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Rhedodd Dwynwen i'r goedwig wedi ei siomi a gweddïo ar Dduw i'w rhyddhau hi o'r cariad.

Llwy garu gyda'r dyddiad 7.12.2019 arno
Image caption,
Mae pobl hefyd yn rhoi llwy garu fel anrheg ar achlysur priodas

Tri dymuniad

Daeth angel i ymweld â hi gan roi diod arbennig iddi i anghofio am Maelon ac i'w droi'n dalp o rew. Wedi hyn ymddangosodd Duw a chynnig tri dymuniad iddi.

  1. Yn gyntaf, roedd Dwynwen eisiau dadmer Maelon.
  2. Yn ail, mynnodd bod Duw yn helpu pob pâr o wir gariadon.
  3. Yn olaf dymunodd na fyddai hi byth yn priodi.
Llwy garu gyda'r dyddiad 7.12.2019 arno
Image caption,
Mae pobl hefyd yn rhoi llwy garu fel anrheg ar achlysur priodas
Adfeilion yr eglwys ar Ynys Llanddwyn
Image caption,
Adfeilion yr eglwys ar Ynys Llanddwyn

Ynys Llanddwyn

Wedi i'r dymuniadau gael eu gwireddu fe aeth Dwynwen i fyw ar ynys bellennig a sefydlu lleiandy. Gelwir yr ynys yn Ynys Llanddwyn ('Llan' sef Eglwys a 'dwyn' ar ôl Dwynwen).

Roedd ffynnon ger yr eglwys ac mae'n debyg bod ynddi bysgodyn oedd yn gallu darogan dyfodol cyplau. Pe bai cyplau yn mynd yno a bod y dŵr yn berwi yna byddent yn cael lwc dda. Daeth yr eglwys a'r ffynnon yn safle pererindodau canoloesol.

Gellir gweld adfeilion y lleiandy ar yr ynys o hyd.

Felly os ydych chi'n dathlu diwrnod Santes Dwynwen trwy roi carden, llwy garu, neu wrth gael pryd o fwyd rhamantus, cofiwch am hanes Dwynwen ar ynys Llanddwyn.

Adfeilion yr eglwys ar Ynys Llanddwyn
Image caption,
Adfeilion yr eglwys ar Ynys Llanddwyn

Cymru arswydus – Noson Calan Gaeaf

Noson Calan Gaeaf yw Ysbrydnos, cyfnod pan all ysbrydion grwydro byd y byw

Cymru arswydus – Noson Calan Gaeaf

Cwis: Tywysogion Cymreig

Faint wyt ti'n ei wybod am hanes Llywelyn ap Gruffydd a'r tywysogion Cymreig?

Cwis: Tywysogion Cymreig

Ymosodiad cyntaf Merched Beca

Pryd, lle a pham trawodd Merched Beca am y tro cyntaf erioed?

Ymosodiad cyntaf Merched Beca