鶹Լ

Tarodd Merched Beca am y tro cyntaf ar 13 Mai, 1839.

Yr ymosodiad ar dollborth Efail-wen, Sir Gaerfyrddin oedd y cyntaf mewn cyfres o brotestiadau gan bobl gyffredin yn erbyn trethi uchel ac annheg dros gyfnod o bedair blynedd. Roedd yna dros 500 o ymosodiadau yn ne-orllewin Cymru rhwng 1839-43. Roedd tua hanner o’r rhain ar dollbyrth.

Cartwn yn dangos Merched Beca yn yn chwalu clwyd tollborth
Image caption,
Cartŵn o gylchgrawn Punch

Efail-wen 13 Mai 1839

Roedd tollbyrth yn dargedau amlwg i ffermwyr anhapus y de-orllewin. Roedd yn rhaid iddyn nhw dalu tollau wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’r farchnad ar hyd ffyrdd cefn gwlad. Roedd 12 o dollbyrth ar y ffyrdd o gwmpas tref Caerfyrddin yn unig.

Yn 1839, codwyd tollborth newydd ym mhentref Efail-wen i ddal y ffermwyr oedd yn defnyddio ffyrdd lle doedd yna ddim tollau.

Roedd hyn yn gam yn rhy bell ac ar 13 Mai, trawodd Merched Beca. Cafodd y tollborth newydd ei ddistrywio gan griw o ddynion wedi eu gwisgo fel merched ac wedi duo eu hwynebau. Llosgwyd y tollty mewn ymosodiad arall ymhen ychydig wythnosau.

Roedd gan ymosodiadau Merched Beca arweinwyr gwahanol mewn ardaloedd gwahanol. Arweinydd y protestiadau cyntaf oedd Thomas Rees (Twm Carnabwth) o Fynachlog-ddu. Roedd e’n gymeriad lliwgar – yn ddyn crefyddol iawn ond yn enwog fel bocsiwr yn ffeiriau’r ardal.

Pam yr enw Beca?

Arweinydd dychmygol oedd Rebecca. Mae llawer yn credu bod yr enw wedi ei gymryd o adnod yn y Beibl, sef Genesis 24:60:

“…a bendithio Rebeca, a dweud wrthi, “Tydi, ein chwaer, boed iti fynd yn filoedd o fyrddiynau, a bydded i'th ddisgynyddion etifeddu porth eu gelynion.”

Roedd hi’n anodd i’r awdurdodau adnabod Merched Beca am eu bod wedi duo eu hwynebau ac wedi eu gwisgo mewn dillad merched. Roedd hyn yn debyg iawn i’r hyn oedd yn digwydd gyda’r Ceffyl Pren.

Image caption,
Roedd Ceffyl Pren yn fath o gosb gorfforol a ddefnyddiwyd mewn rhannau o Gymru wledig

Cosb gorfforol oedd Ceffyl Pren a ddefnyddiwyd mewn rhannau o Gymru wledig. Byddai troseddwyr yn cael eu cludo o gwmpas y pentref wedi eu clymu i ffrâm goed neu ysgol er mwyn codi cywilydd. Fel Merched Beca, byddai pobl yn gwisgo dillad rhyfedd ac yn duo eu hwynebau wrth wneud hyn.

Mae’n debyg bod terfysgwyr Beca wedi defnyddio’r Ceffyl Pren ar achwynwyr a cheidwaid tollbyrth.

Image caption,
Roedd Ceffyl Pren yn fath o gosb gorfforol a ddefnyddiwyd mewn rhannau o Gymru wledig

Rhesymau dros y terfysg

Roedd hi’n gyfnod anodd iawn i ffermwyr y de-orllewin felly roedd yna nifer o resymau dros y terfysgoedd yn ogystal â’r tollbyrth:

  • gostyngiad ym mhris ŷd
  • dirwasgiad ymhlith ffermwyr
  • dirwasgiad yn ardaloedd diwydiannol y de-ddwyrain, sef prif farchnad y ffermwyr
  • bwlch anferth rhwng tenant-ffermwyr tlawd a’r tirfeddianwyr cyfoethog
  • trethi a rhenti uchel
  • amhoblogrwydd trethi’r tlodion a oedd yn talu am y tlotai newydd

Golwg ar y rhesymau dros derfysgoedd Beca yn ystod y 19eg ganrif a methiant y llywodraeth i ddal y troseddwyr.

Terfysgoedd 1839-43

Er i’r terfysg ddechrau yn Efail-wen yn 1839, roedd ar ei waethaf yn 1843 pan ymosodwyd ar lawer o dollbyrth pwysig. Distrywiwyd rhai yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Pontarddulais a Llangyfelach. Yn yr Hendy, cafodd ceidwad y tollty, merch ifanc o’r enw Sarah Williams ei lladd.

Natur troseddau. video

Sut mae natur gweithgaredd troseddol wedi newid dros amser?

Natur troseddau

Terfysgoedd Swing. revision-guide

Pam wnaeth gweithwyr amaethyddol yn ne ddwyrain Lloegr ymosod ar beiriannau fferm yn y 1830au?

Terfysgoedd Swing

TGAU Hanes – Trosedd a Chosb. collection

Casgliad o nodiadau dysgu, profion a fideos ar gyfer manyleb CBAC.

TGAU Hanes – Trosedd a Chosb