鶹Լ

Edward I yn eistedd ar ei orsedd gyda Llywelyn ab Gruffydd, Brenin Alexander I o'r Alban, esgobion a phobl eraill yn eistedd naill ochr iddo.
Image caption,
Rhan o ysgythriad o lawysgrif Wriothesley (tua 1523) yn dangos Edward I, Llywelyn ap Gruffydd a'r brenin Alexander III o'r Alban yn senedd Edward I

Er bod Game of Thrones yn llawn hud, lledrith a dreigiau, mae’r stori wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau hanesyddol a phobl go iawn.

Prif ysbrydoliaeth yr awdur, George R. R. Martin oedd Rhyfeloedd y Rhosynnod (1455 - 1485). Roedd hon yn ganrif hynod o dreisgar, pan fu farw chwarter o ddynion pendefigaidd Lloegr drwy drais.

Rhag ofn dy fod yn meddwl bod ni’r Cymry’n angylion, mae hanes y tywysogion Cymreig yn ystod y canrifoedd blaenorol yn un cythryblus hefyd. Nid yn unig roedden nhw’n ymladd yn erbyn eu gelynion, y Normaniaid, roedden nhw hefyd yn ymladd yn erbyn ei gilydd a hyd yn oed yn erbyn aelodau o’u teuluoedd eu hunain.

Mae yna gysylltiad Cymreig rhwng Game of Thrones a Rhyfeloedd y Rhosynnau hefyd. Ar ddechrau’r stori, mae Daenerys Targaryen wedi ei halltudio. Mae’n dychwelyd i Westeros gyda’r bwriad o gipio yr Orsedd Haearn. Cyn i Harri Tudur roi diwedd ar Ryfeloedd y Rhosynnod a chipio coron Lloegr drwy ennill Brwydr Bosworth, bu’n alltud yn Llydaw am flynyddoedd. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw hi bod gan Daenerys Targaryen dair draig i'w helpu i ymladd ei gelynion, a bod yna ddraig ar arfbais Harri Tudur.

Nawr te, nôl at y tywysogion cwerylgar Cymreig yna. Rho gynnig ar ein cwis er mwyn darganfod faint rwyt ti’n ei wybod amdanyn nhw.

Y ddau Lywelyn

Gwylia'r fideo er mwyn dysgu sut daeth y ddau Lywelyn i reoli Cymru

Y ddau Lywelyn

Hanes CA3

Clipiau fideo am hanes Cymru - o'r Normaniaid at y byd modern

Hanes CA3

TGAU Hanes

Cynnwys i dy helpu di adolygu TGAU Hanes

TGAU Hanes