Â鶹ԼÅÄ

Roedd streic y glowyr 1984-1985 yn ymgais gan lowyr i atal y Bwrdd Glo Cenedlaethol a llywodraeth y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, rhag cau pyllau glo ledled Prydain.

Mae’r streiciau yn adnabyddus fel un o’r diwydiannol mwyaf ym Mhrydain.

Pam ddechreuodd y streic?

Erbyn dechrau’r 1980au, roedd pyllau glo yn colli arian ac roedd nifer y bobl oedd yn gweithio yno yn gostwng. Ar 6 Mawrth 1984, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai 20 o lofeydd yn cau gan ddiswyddo 20,000 o lowyr.

Roedd hyn yn golygu y byddai llawer o gymunedau glofaol yn colli eu prif ffordd o ennill arian.

Dechreuodd y streic yn Swydd Efrog, lle gadawodd glowyr ym mhwll glo Cortonwood eu gwaith yn dilyn pleidlais leol. Yn sgil hyn, cyhoeddodd llywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Arthur Scargill, streic genedlaethol ar 12 Mawrth 1984, er na chafodd y glowyr gyfle i bleidleisio’n swyddogol am hyn.

Roedd y streic, a barodd am flwyddyn, yn gatalydd i newid hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol Cymru am byth. Er bod y rhan fwyaf o’r streic wedi cael ei chynnal yn heddychlon, bu gwrthdaro ffyrnig yng ngwaith golosg Orgreave yn Swydd Efrog yn 1984, lle roedd tanwydd ar gyfer dur yn cael ei greu. Daeth glowyr o bob cwr o’r wlad at ei gilydd yno i geisio atal y cyflenwad glo rhag cyrraedd y gwaith. Roedd 5,000 o bicedwyr yn bresennol a tua 6,000 o blismyn ac arweiniodd at drais a gwrthdaro rhwng y ddwy ochr.

Fideo - Streic y glowyr

Cefnogaeth i’r streic yng Nghymru

Amrywiodd y gefnogaeth i’r streic yng Nghymru. Roedd cefnogaeth frwd iddi yng nghymunedau de Cymru, lle roedd dros 99% o’r gweithlu yn cefnogi streic ar y cychwyn. Fodd bynnag, dim ond 35% o’r gweithlu oedd yn cefnogi’r streic yn ardaloedd gogledd-ddwyrain Cymru.

Ffotograff o lowyr yn protestio ym mhwll glo y Maerdy, y Rhondda, ar ddiwedd streic y glowyr ar 5 Mawrth 1985
Image caption,
Glowyr ym Mhwll Glo y Maerdy, y Rhondda, at ddiwedd streic y glowyr ar 5 Mawrth 1985

Streiciodd y rhan fwyaf o lowyr yn Swydd Efrog, gogledd ddwyrain Lloegr a de Cymru. Roedd llai o gefnogaeth yng nghanolbarth Lloger, a chafodd sir Nottingham ei thargedu’n benodol gan bicedi. Bu glowyr yn sefyll wrth fynedfeydd y pyllau glo yn protestio yn erbyn y glowyr a oedd yn dal i weithio, a cheisio eu hatal rhag mynd i mewn.

Er mai dulliau heddychlon gafodd eu defnyddio ar gyfer y streic, bu gwrthdaro rhwng y picedwyr a’r heddlu ar rai achosion, ee gwthio a hyrddio. Bu anghytuno a gwrthdaro o fewn cymunedau hefyd, gan nad oedd hi’n hawdd maddau i’r rhai oedd yn barod i dorri’r streic a mynd i’r gwaith.

Ymateb y llywodraeth

Roedd streiciau’r glowyr yn y 1970au wedi achosi llawer o drafferth i’r cyhoedd yn sgil toriadau ar bŵer, ond roedd y llywodraeth wedi paratoi ar gyfer streiciau’r 1980au. Gan ragweld y gallai streic ddechrau, roedd y llywodraeth eisoes wedi storio digon o lo i bara am chwe mis.

Yn ogystal, cafodd unedau heddlu arbenigol eu sefydlu gan lywodraeth Margaret Thatcher. Nod y rhain oedd gallu symud yn gyflym i ardaloedd y streiciau a rhwystro unrhyw un a oedd yn ceisio atal glo rhag cael ei gludo i orsafoedd pŵer y wlad.

Effaith y streic ar gymunedau yng Nghymru

Roedd y cymunedau glofaol yn cefnogi'r streicwyr a chwaraeodd gwragedd ran bwysig yn y anghydfod hefyd, gan gasglu arian a threfnu i ddosbarthu bwyd.

Roedd arian i brynu pethau fel bwyd a dillad yn brin ac roedd tlodi yn amlwg iawn yn y cymunedau. Bu'r menywod hefyd yn sefyll ochr yn ochr â'u gwyr, brodyr, tadau a meibion ar y llinell biced.

Derbyniodd lowyr a oedd ar streic yn ne Cymru gefnogaeth gan weithwyr chwareli'r gogledd a ffermwyr y canolbarth - bu nifer yn casglu arian a bwyd i’w hanfon i’r de.

Tensiwn yn arwain at drais

Wrth i'r streicio barhau, aeth pethau'n anodd iawn i'r glowyr a'u teuluoedd, gan nad oedd y gweithwyr yn ennill cyflog nac yn gallu derbyn gan fod y streic wedi cael ei dyfarnu fel un anghyfreithlon.

Aeth pethau mor anodd i rai teuluoedd fel nad oedd dewis ganddyn nhw ond dychwelyd i'w gwaith a thorri'r streic, ac roedd eraill yn eu hystyried yn 'fradwyr' am wneud hynny.

Ym mis Tachwedd 1984, roedd David Wilkie, gyrrwr tacsi 35 oed o Drefforest yn gyrru glowr oedd yn torri’r streic i’w waith yng nglofa Ynysowen.

Wrth yrru o dan bont ar hyd Ffordd Blaenau’r Cymoedd, cafodd bloc concrid 21kg ei daflu ar y tacsi gan ddau löwr o Rhymni, Caerffili a oedd yn streicio.

Bu farw David Wilkie, tra llwyddodd ei deithiwr osgoi anaf difrifol.

Cefnogaeth y tu hwnt i’r ardaloedd glofaol

Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd grwpiau cymunedol eu sefydlu ledled Prydain i gasglu arian ac adnoddau ar gyfer y cymunedau glofaol a oedd yn streicio.

Un cymuned a elwodd o hyn oedd Onllwyn ger Castell-nedd.

Gan sylweddoli nad oedd yr heddlu yn tarfu ar gymunedau LHDTC+ bellach gan fod eu sylw ar faterion eraill, sefydlodd yr actifydd Mark Ashton y grŵp Lesbians and Gays Support the Miners.

Gan ddechrau drwy gasglu arian i’r cymunedau glofaol yng ngwŷl Pride Llundain, tyfodd y mudiad, ac erbyn diwedd y streic ym mis Mawrth 1985 roedd dros 60 o bobl yn rhan ohono chafodd £20,000 ei gasglu i gymuned Onllwyn.

Diwedd swyddogol ar y streic

Daeth y streic i ben yn swyddogol ar 3 Mawrth 1985. Dychwelodd y glowyr i’w gwaith ddeuddydd yn hwyrach a chafodd llawer o byllau glo eu cau dros y blynyddoedd canlynol. Roedd llawer o’r glowyr a fu’n streicio mewn dyled ariannol yn dilyn y streic, ac yn derbyn pecynnau diswyddo i’w helpu. Arweiniodd hyn at ddirywiad economaidd yng Nghymru gan fod diweithdra a thlodi yn gyffredin yn ardaloedd y pyllau glo, a bu’n rhaid i siopau a busnesau gau yn sgil hyn.

Roedd dros 20,000 o lowyr yng Nghymru yn 1984 a dim ond 3,700 oedd yn weddill erbyn diwedd y 1980au.

Cwis - Streic y glowyr

More on Gwrthdaro a heddwch

Find out more by working through a topic