Â鶹ԼÅÄ

Y blynyddoedd cynnar

Roedd angen ailadeiladu Prydain yn dilyn Yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) a sicrhau bod swyddi a gofal meddygol ar gael i’r milwyr oedd yn dychwelyd i’r wlad. Er bod Prydain wedi ennill y rhyfel, achosodd broblemau mawr i’r economi yn y tymor byr, gan fod nifer fawr o longau a oedd yn cario nwyddau wedi cael eu suddo.

Yn ogystal â hyn, roedd nifer o wledydd a oedd yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig eisiau gadael. Casgliad o wledydd neu diroedd oedd yn cael eu rheoli gan Brydain oedd yr Ymerodraeth Brydeinig, ac roedd Prydain yn rheoli 23 y cant o holl boblogaeth y byd erbyn 1913.

Dechreuodd gwledydd gwestiynu hawl Prydain i’w rheoli ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Enillodd India annibyniaeth yn 1947 ar ôl protestiadau di-drais dan arweinyddiaeth Mahatma Gandhi.

Hefyd, roedd Prydain yn gweld bod rheoli ymerodraeth yn gostus o ran byddin a llynges. Effeithiodd hyn ar economi Prydain gan fod gwledydd yr ymerodraeth yn rhan bwysig o fasnach. Roedd yn rhaid i Brydain hefyd ddechrau talu eu dyledion rhyfel, er bod masnach wedi lleihau.

Adroddiad Beveridge

William Beveridge yn cyfarch torf mewn neuadd.
Image caption,
William Beveridge yn annerch torf yn Llundain ynglŷn â’i adroddiad

Ar ôl ennill etholiad 1945, gwnaeth y Prif Weinidog, Clement Attlee, greu cynllun mewn ymateb i Adroddiad Beveridge a gafodd ei gyhoeddi yn 1942. Disgrifiodd yr adroddiad y problemau cymdeithasol yr oedd angen rhoi sylw arbennig iddyn nhw ar ôl y rhyfel. William Beveridge gafodd y gwaith o ysgrifennu’r adroddiad a daeth i’r casgliad mai ‘Pum cawr’ oedd wrth wraidd problemau cymdeithasol Prydain sef:

  • angen – roedd pobl yn dlawd
  • afiechyd – roedd gofal iechyd yn annigonol
  • anwybodaeth – nid oedd y boblogaeth wedi derbyn addysg dda
  • aflendid – roedd cyflwr tai yn wael iawn
  • segurdod – roedd diffyg swyddi a chyfle i ennill cyflog

Gwladwriaeth les

Cynigiodd Beveridge greu system gymdeithasol ‘o’r crud i’r bedd’ a ddaeth yn sylfaen i’w gynllun o sefydlu . Gwnaeth Attlee roi llawer o syniadau Beveridge ar waith, megis gofal meddygol am ddim i bawb ac addysg am ddim i bob plentyn tan eu bod yn 15 mlwydd oed. Yn ogystal â hyn, cafodd cynllun enfawr i adeiladu miloedd o dai cyngor o safon uchel ei gyflwyno i wella’r broblem o aflendid. Er mwyn ceisio mynd i’r afael â thlodi, cafodd cynllun nawdd cymdeithasol ei gyflwyno a oedd yn cynnig pensiwn i’r henoed a i bobl sâl ac anabl.

Gwladoli

Un o benderfyniadau llywodraeth Attlee oedd rhai diwydiannau. Ystyr hyn yw bod llywodraeth yn penderfynu rheoli neu berchen cwmnïau neu ddiwydiannau. Yn y 1940au, cafodd y diwydiannau glo, trydan, rheilffyrdd, haearn a dur eu rhoi o dan berchnogaeth y wlad. Gwnaeth hyn sicrhau bod gwaith pobl ddiogel mewn meysydd pwysig yn ddiogel yn yr ymdrech o ailadeiladu’r wlad. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gwnaeth y llywodraeth berchenogi a chymryd rheolaeth dros 1,200 o byllau glo a oedd yn berchen i 800 o gwmnïau ac a oedd yn cyflogi 700,000 o bobl.

Diwydiannau a wladolwyd gan y blaid Lafur (1945-50) – Diwydiant glo (1947) Trydan (1947) Rheilffyrdd (1948) Diwydiant haearn a dur (1949).

Y tymor hir

Pymtheg mlynedd ar ôl y rhyfel, bu cyfnod o lwyddiant economaidd ym Mhrydain. Roedd y 1950au yn cael eu hystyried fel ‘Oes Aur’ gan fod nifer y bobl heb waith yn isel ac roedd cyflogau gweithwyr yn codi.

Oes Aur y 1950au

Cynyddodd cyflogau pobl, gan gynnwys y dosbarth gweithiol, yn ystod y cyfnod yn dilyn y rhyfel. Rhwng 1955 a 1969, bu cynnydd o 130 y cant mewn cyflogau. Yn 1957, roedd pobl ifanc yn eu harddegau yn ennill 50 y cant yn fwy o dâl o gymharu ag yn 1938. Felly, roedd gan deuluoedd arian i’w wario ar bethau fel gwyliau. Agorodd cwmni Butlins wersyll gwyliau ym Mhwllheli yn 1950.

Mae arferion siopa pobl heddiw wedi eu siapio gan y cyfnod yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Yn sgil cyfoeth newydd pobl yn y cyfnod, agorwyd canolfannau siopa a siopau ‘cadwyn’ am y tro cyntaf mewn dinasoedd.

Yn ogystal â hyn, agorodd siopau ‘hunanwasanaeth’, sef archfarchnadoedd lle roedd y cwsmer yn estyn y nwyddau ei hun, am y tro cyntaf. Agorodd cwmni Co-op, y siop hunanwasanaeth gyntaf yn Llundain yn 1948, ac agorodd Tesco un yn St Albans yn dilyn hyn.

Yn sgil masgynhyrchu, bu twf mewn gwerthiant ceir oherwydd bod mwy o bobl yn gallu eu fforddio. Cafodd hyn ddylanwad ar ba mor bell roedd pobl yn barod i deithio ac arweiniodd hyn at gynllun adeiladu ffyrdd mawr. Agorodd y darn cyntaf o draffordd ym Mhrydain yn 1958 ac agorodd Pont Hafren rhwng Cymru a Lloegr yn 1966.

Ffotograff yn dangos archfarchnad oedd newydd gael ei hagor ym Maidenhead, lle mae pobl i’w gweld yn helpu eu hunain i eitemau.
Image caption,
Archfarchnad newydd gael ei hagor yn Maidenhead

Nwyddau traul

Cyn y rhyfel, dim ond y bobl mwyaf cyfoethog oedd yn gallu prynu peirannau ar gyfer eu cartrefi. Wrth i gyflogau gynyddu, roedd gan bobl fwy o arian i’w wario ar nwyddau ar gyfer eu cartrefi. Gan fod gwerthiannau’n uwch, roedd prisiau’n cwympo ac roedd mwy yn gallu fforddio eu prynu. Yn ogystal â hyn, roedd dylanwad cymdogion yn bwysig - roedd teuluoedd eisiau copïo ei gilydd a phrynu’r offer diweddaraf. Felly, roedd angen sicrhau bod trydan ar gael ym mhob tŷ newydd ac erbyn 1960 roedd wedi cyrraedd yr ardaloedd mwyaf gwledig.

Yn 1955, dim ond 20 y cant o bobl Prydain oedd yn berchen ar gar ond roedd hyn ar fin newid. Roedd mwy a mwy o bobl yn berchen ar nwyddau traul, ee set deledu, sugnwr llwch, peiriant cerddoriaeth a pheiriant golchi. Erbyn 1960, roedd 40 y cant o gartrefi yn berchen ar beiriant golchi dillad ac roedd 21 y cant yn berchen ar oergell.

Arweiniodd y defnydd o oergell a rhewgell at newidiadau i ddeiet pobl, ac roedd bwydydd wedi’u rhewi bellach yn cael eu gwerthu mewn siopau. Un effaith negyddol o’r twf mewn gwerthiant setiau teledu yn yr 1950au a’r 1960au oedd cwymp yn nifer y bobl oedd yn mynd i’r sinema.

Hysbysebu

Roedd rôl hysbysebu yn bwysig er mwyn tynnu sylw at y nwyddau newydd. Ceisiodd yr hysbysebion bwysleisio bod llawer o’r nwyddau yma am drawsnewid bywydau teuluoedd.

Yn 1960, roedd cwmnïau yn gwario pedair gwaith yn fwy o arian ar hysbysebion o gymharu ag yn 1947. Cafodd cylchgrawn Which ei lansio yn 1957 a oedd yn rhoi cyngor ar nwyddau a gwasanaethau, gan werthu 300,000 o gopïau.

Hurbwrcas

Cafodd y system ei chyflwyno fel bod pobl yn gallu fforddio prynu nwyddau traul. Roedd y system yma yn golygu y gallai bobl dalu am nwyddau i’r tŷ dros gyfnod hir felly roedd mwy o bobl yn gallu fforddio eu prynu nhw. Erbyn 1956, roedd hanner o’r setiau teledu oedd yn cael eu gwerthu yn cael eu prynu gan ddefnyddio’r system yma, ac arweiniodd hyn at system y cerdyn credyd.

Fideo - Yr economi wedi'r rhyfel

Effaith ar ddiwydiannau Cymru

Cafodd y twf yng ngwerthiant ceir a nwyddau traul effaith ar ddiwydiannau traddodiadol yng Nghymru megis y diwydiant dur. Wrth i fwy o bobl brynu ceir a pheiriannau a oedd wedi eu gwneud o fetel, cafodd hyn effaith bositif ar weithfeydd dur yng Nghymru.

Fodd bynnag, rhywbeth dros dro oedd hyn oherwydd dyma’r cyfnod lle dechreuodd diwydiannau traddodiadol Cymru megis dur, glo a llechi wynebu problemau. Erbyn y 1960au, roedd y galw am gynnyrch y diwydiannau hyn wedi cwympo yn dilyn twf ar ddiwedd y rhyfel. Felly, nid oedd angen cymaint o weithwyr bellach gan fod llai o lo, dur a llechi yn cael eu gwerthu.

Ar ôl cyfnod llewyrchus y 1950au, cafodd 50 pwll glo eu cau yng Nghymru rhwng 1957 a 1964. Roedd llai na 1,000 yn gweithio yn y chwareli llechi yng ngogledd Cymru erbyn 1970. Collodd 6,500 o weithwyr eu swyddi yng ngwaith dur Shotton yn Sir y Fflint yn 1980.

A oedd gwelliant ym mywydau pobl ar ôl yr Ail Ryfel Byd?

Ar un llaw, gwelodd lawer o bobl welliant yn y 1950au gan fod diweithdra yn isel a daeth dogni bwyd i ben. I lawer roedd yn gyfnod o gyfoeth gan fod arian sbâr ganddyn nhw i’w wario ar nwyddau.

Fodd bynnag, ddaeth pawb ddim yn fwy cyfoethog yn dilyn y rhyfel, gan fod nifer dal heb swyddi ac yn methu â byw ar fudd-daliadau. Roedd gan bensiynwyr lai o arian i’w wario gan fod gwerth eu pensiwn wedi gostwng. Yn ogystal â hyn, tuag at ddiwedd y 1950au roedd gweithwyr mewn swyddi traddodiadol fel glo, haearn, dur a llechi yn colli eu swyddi wrth i weithfeydd gau lawr.

Cwis - Yr economi wedi'r rhyfel

More on Gwrthdaro a heddwch

Find out more by working through a topic