Diweddarwyd: 2 Mehefin 2020
Pan rydych chi’n rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i ni, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ba mor hir y byddwn ni’n ei chadw. Os na fyddwn ni'n dweud unrhyw beth, rydyn ni'n cadw at yr egwyddorion hyn:
- Dim ond cyhyd ag y byddwn yn gwneud y gweithgareddau y dywedwyd wrthych amdanyn nhw y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth
- Rydyn ni’n meddwl am ba fath o wybodaeth ydyw, faint a gasglwyd, pa mor sensitif y gallai fod ac unrhyw anghenion cyfreithiol
- Rydyn ni’n cynllunio ein gwasanaethau fel nad ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth am gyfnod hirach nag sy'n rhaid i ni
- Rydyn ni wastad yn meddwl am risgiau posib unrhyw un yn defnyddio neu'n rhannu'r wybodaeth yma heb ganiatâd
- Efallai y byddwn ni’n cau eich cyfrif Â鶹ԼÅÄ os nad ydych chi wedi ei ddefnyddio yn y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn ni’n anfon e-bost atoch i ddweud ein bod ni’n bwriadu gwneud hynny cyn i ni ddileu unrhyw beth, felly ewch i’ch mewnflwch i weld os ydyn ni wedi anfon unrhyw e-byst ynglÅ·n â hyn
Beth os oes gen i gyfrif Â鶹ԼÅÄ?
Byddwn ni'n cadw'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni fel rhan o'ch cyfrif Â鶹ԼÅÄ tra bod gennych gyfrif gyda ni. Os ydych chi'n dileu eich cyfrif Â鶹ԼÅÄ, yna bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu yn syth a daw'r wybodaeth sy'n weddill yn ddienw. Efallai y byddwn yn ei defnyddio i'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Beth os ydw i wedi anfon rhywbeth wnes i ei greu?
Os ydych chi wedi anfon unrhyw greadigaeth ynghyd â gwybodaeth bersonol, cymerwch olwg ar ein Telerau Defnyddio i weld sut rydyn ni'n storio rhain.