Â鶹ԼÅÄ

Beth yw cyfrif Â鶹ԼÅÄ?

Diweddarwyd y dudalen: 13 Rhagfyr 2021

Dyma beth gewch chi pan fyddwch chi’n cofrestru gyda’r Â鶹ԼÅÄ. Mae'n bersonol i chi ac yn eich helpu i gael mwy gan y Â鶹ԼÅÄ. Byddwch hefyd angen un er mwyn defnyddio Â鶹ԼÅÄ iPlayer a rhai o'n apiau.

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth gofrestru yn cael ei storio yn eich cyfrif er mwyn i chi allu ei gweld neu ei newid pryd bynnag hoffech chi.

Oes gennych chi gwestiynau am eich cyfrif Â鶹ԼÅÄ? Dyma rai llefydd i chwilio am yr ateb:

Pam cofrestru ar gyfer cyfrif Â鶹ԼÅÄ?

Mae’n eich helpu i gael y gorau o’r Â鶹ԼÅÄ. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, gallwch:

  • Gwylio a gwrando ar bethau ar Â鶹ԼÅÄ ar-lein, gan gynnwys Â鶹ԼÅÄ iPlayer, Â鶹ԼÅÄ Sounds a pheth chwaraeon byw
  • Ychwanegu rhaglenni a chynnwys i’w mwynhau’n ddiweddarach
  • Cael argymhellion wedi eu teilwra i chi
  • Cael hysbysiadau am bethau sydd o ddiddordeb i chi
  • Rhoi sylwadau ar straeon Â鶹ԼÅÄ News
  • Pleidleisio ar gyfer rhaglenni fel Strictly Come Dancing
  • Dod yn WeatherWatcher.

Ac nid dyna’r cyfan

Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, byddwch hefyd yn cael profiad mwy cydgysylltiedig o’r Â鶹ԼÅÄ. Er enghraifft, os byddwch yn rhoi saib ar raglen iPlayer ar eich ffôn, byddwch yn gallu parhau â'r gwylio o’r fan honno ar eich gliniadur.

Rhagor o wybodaeth am yr hyn mae eich cyfrif Â鶹ԼÅÄ yn ei roi i chi.

Change language: