Â鶹ԼÅÄ

Sut i ddileu eich cyfrif

Diweddarwyd y dudalen: 21 Gorffennaf 2017

Cofiwch, mae dileu eich cyfrif yn derfynol. Ond os ydych chi wir am wneud, dyma sut...

1. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif Â鶹ԼÅÄ.

2. Yna, ar unrhyw un o wefannau’r Â鶹ԼÅÄ, cliciwch ar yr eicon "Eich cyfrif" ar ben y dudalen. (Os oes gennych enw arddangos, bydd yn dangos eich enw arddangos, nid "Eich cyfrif"). Mae hwn yn y bar llywio, ger bar cyfeiriad eich porwr gwe.

3. Dewiswch "Gosodiadau" a byddwch yn mynd at eich manylion personol.

4. Yn yr adran "Dileu eich cyfrif", cliciwch ar "Rwyf eisiau dileu fy nghyfrif". Bydd angen i chi roi eich cyfrinair cyfredol er mwyn i ni wybod mai chi sydd yno.

5. Ar y sgrin nesaf, cliciwch ar "Dileu cyfrif" ac fe fyddwch chi wedi ei ddileu. Bydd yn ddrwg gennym eich gweld chi’n gadael.

Wedi anghofio eich cyfrinair?

Bydd rhaid i chi ei ail-osod. Gallwch ddysgu sut yn "Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfrinair".

Os wyt ti o dan 13 ac wedi anghofio dy gyfrinair, yn anffodus, ni fyddi di'n gallu dileu neu fewngofnodi i dy gyfrif. Ymddiheuriadau am hynny.

Os ydych chi angen cyfrif newydd, bydd rhaid i chi gofrestru am un.

Rydw i wedi dileu fy nghyfrif mewn camgymeriad. Beth alla i ei wneud?

Mae dileu eich cyfrif yn derfynol, felly yn anffodus allwch chi ddim ei gael yn ôl. Rydyn ni'n gwneud hynny er mwyn diogelu eich gwybodaeth breifat.

Os ydych chi wedi dileu eich cyfrif mewn camgymeriad neu wedi newid eich meddwl, rhaid i chi gofrestru am un newydd. Gallwch gael help i gofrestru yma.

Change language: