Â鶹ԼÅÄ

Rebels Cymreig - Barti Ddu

Cofeb Barti Ddu

Rhaglen 5 - Barti Ddu, Môrleidr

Ganed Barti Ddu, neu 'Bartholomew' Roberts, yng Nghasnewydd Bach, tua chwe milltir i'r de o Abergwaun, Sir Benfro, tua 1682.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

John Roberts oedd ei enw iawn: fe fabwysiadodd yr enw "Bartholomew" pan ddaeth yn forleidr. Credir ei fod o deulu tlawd, ond tystiodd wrth eraill ei fod yn awchu am gael byw yn fras: "a merry life and a short one" oedd ei ddyhead, meddai un tro.

Aeth i'r môr yn ifanc, efallai tua 1695, yn 13 oed. Tystia'r Capten Charles Johnston iddo fod yn forwr am tua 20 mlynedd cyn mynd yn fôrleidr. Daeth yn feistr ar grefftau morwriaeth, yn enwedig ar lunio a dilyn cwrs yn gywir.

Roedd yn aelod o griw'r llong gaethion "Princess", pan gipiwyd y llong gan forladron o dan arweiniad Howell Davies (Hywel Dafis) ar 5 Mehefin 1719. Cafodd Barti gynnig i ymuno â'r morladron, ac fe dderbyniodd ar yr esgus mai bywyd tlodaidd a gwael oedd i forwr cyffredin ar long fasnach.

Dechreuodd Barti ar yrfa ryfeddol fel morleidr, yn cipio tua 400 o longau mewn llai na thair blynedd. Erbyn iddo gael ei ladd yn 1722, ef oedd yr enwocaf o gannoedd o forladron oedd ar waith yng Ngorllewin Affrica, y Caribî ac arfordir De America.

Erbyn Chwefror 1722 roedd dwy o longau'r Llynges Frenhinol ar drywydd Barti, a daeth un ohonynt, sef HMS "Swallow", o dan arweiniad y Capten Challoner Ogle, ar draws Barti a'i dair llong ger Cape Lopez. Dioddefodd y "Royal Fortune", sef llong Barti, ergydion lawer, a lladdwyd Barti gan ergyd i'w wddw. Bwriwyd ei gorff i'r môr, rhag i'r awdurdodau gael gafael arno.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.