Βι¶ΉΤΌΕΔ

Bys ar y Pyls

Pob nos Fawrth ar raglen Magi Dodd mae Jeni Lyn yn dod ΓΆ'r newyddion diweddaraf o'r sΓ®n gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt...

Newyddion o Eisteddfod Glyn Ebwy 2010-08-10

Gyda Jeni ar y maes a Magi, Glyn a Huw yn y Stafell Werdd cafwyd gwybodaeth am gynlluniau nifer o artistiaid a fandiau yr SRG am y dyfodol agos. Ymysg yr artistiaid sydd eisioes wedi rhyddhau deunydd... Holodd Jeni Gwyneth Glyn am pryd y gallwn ni ddisgwyl ddeunydd newydd ganddi. Aeth Glyn ati i holi Huw M rhwng caneuon yn y Stafell Werdd am beth fyddai nesaf iddo. A cyhoeddodd Y Bandana (a oedd yn yr Eisteddfod yn hyrwyddo eu sengl Dal Dy Drwyn) eu bod hwy gyda cynlluniau ar gyfer eu halbym cyntaf

Gwyl y Faenol wedi cael ei chanslo

Mae'r Wyl a oedd fod yn rhedeg ar hyd Gwyl y Banc ddiwedd fis Awst wedi ei ganslo yn dilyn gwerthiant araf o docynnau o flaen llaw. Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i'r wyl orfod gael ei chanslo. Os oes unrhwyun wedi prynu eich tocynnau ar gyfer unrhyw un o ddigwyddiadau'r Wyl eleni, yna meant yn gallu hawlio ad-daliad llawn. Mwy o fanylion:

G?yl Gwydir 2010

Mae lein-yp Gwyl Gwydir, Llanrwst wedi cael ei gyhoeddi:

Gwener 10 Medi, Clwb Legion - Β£7
Meic Stevens a'r band
Alun Tan Lan a'r band
Tecwyn Ifan a'r band
Gildas

Dydd Sadwrn 11 Medi, Gardd Gwrw 'r New Inn - AM DDIM

Mr Huw
Jen Jeniro
Yucatan
Haku Tokinawa
Dan Amor a'r band
The Peakz

Nos Sadwrn 11 Medi, Clwb Legion - Β£6

Llwybr Llaethog
Yr Ods
The Loungs
Violas

Mae modd prynnu tocynnau o siop Bys a Bawd, Llanrwst neu trwy gysylltu ΓΆ'r trefnwyr ar gwylgwydir@live.co.uk

Taith Yucatan i hyrwyddo 12" Enlli

Mae Yucatan yn mynd ar daith i hyrwyddo lansiad 12" Enlli sydd yn cael ei ryddhau ar recordiau coll 23 Awst.

21 Awst - Ty Siamas, Dolgellau
22 Awst - Buffalo Bar, Caerdydd
25 Awst - The Half Moon, Putney, Llundain
28 Awst - Y Pentan, Wyddgrug
29 Awst - Dulcimer, Maenceinion
30 Awst - Oporto, Leeds

Mi fydd yr EP ar gael i brynnu am Β£5 ar y daith. Mwy o fanylion:

Rod Stewart a babi rhif 8

Mae Rod Stewart a Penny Lancaster wedi cyhoeddi eu bod nhw yn disgwyl eu hail blentyn! Cafodd y cwpl blentyn, Alastair, bedwar mlynedd yn Γ΄l, a dyma fydd wythfed plentyn Rod, sydd bellach yn 65 mlwydd. Erbyn fydd y babi wedi ei eni mi fydd Rod yn 66, ond er hyn mae'r pΓΆr yn gweud eu bod wrth ei bodd 'da'r newyddion!

Sengl Masters in France

Yn dilyn rhyddhad "Greyhounds" yn Mehefin, mae Masters in France wedi cyhoeddi mae eu sengl nesaf fydd "Little Girl". Mi fydd y sengl yn cael ei rhyddhau 18 Hydref, ac mae noson lawnsio'r sengl yn cael ei gynnal yn Rascals, Bangor ar 22 Awst. Yn y cyfamser, mae'r band yn chwarae'r canlynol:

11 Awst - Corwen SP (Gwyl Ieuenctid), Corwen
12 Awst - Rhuthun LC (Gwyl Ieuenctid)
13 Awst - Dinbych LC (Gwyl Ieuenctid), Dinbych
14 Awst - The Venue: Mixtape Clubnight, Corby
28 Awst - Chwilgig, Pwllheli
11 Medi - Bedolfest, Amlwch

Mwy o fanylion:

Aled Richards yn ymuno gyda Killing for Company

Mae Aled Richards, gynt o Catatonia, wedi ei gyhoeddi fel drymiwr newydd Killing For Company. Mae'r band wedi bod yn hyrwyddo'r sengl elusenol 'Former Mining Town' mewn cof am eu cyn-ddrymiwr, Stuart Cable, a bu farw ar ar 7 Mehefin eleni. Mi fydd Aled yn ymuno gyda'r band yn eu hymddangosiad byw cyntaf ers marwolaeth Stuart Cable mewn gig yng ngwyl Pontardawe ar y 19 Awst. Mwy o fanylion:

Newyddion Stiwdio Acapella

Mae Stiwdio Acapella a'r label Kissan wedi danfon traciau i C2 gan rhai o'r artistiaid sydd wedi bod trwy ddrysau'r stiwdio yn ddiweddar. Mae'r stiwdio wedi danfon copi o drac newydd Nos Sadwrn Bach ac El Parisa fel rhagflas o'r hyn sydd i ddod. Mi fydd Sesiwn C2 Just Life Frank, sydd hefyd wedi cael ei recordio yno, yn dod ymhen rhai wythnosau.

Rhiniog ar C2

Yn olaf, neges fach o hys-bys i gyfres newydd sy'n dechrau ar C2 nos yfory, 11/08/10 am 10 o'r gloch ar C2 Radio Cymru. Rhiniog ydi enw'r rhaglen ac Huw Stephens fydd yn cyfwynol gan ymweld a chartrefi neu stiwdios cerddorion i drafod eu cerddoriaeth a'u dylanwadau. Twm Morys sy'n cael yr ymweliad cyntaf gan Huw.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.