Βι¶ΉΤΌΕΔ

Cod Ymddygiad y Βι¶ΉΤΌΕΔ ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisio

Mae'r cod ymddygiad yma yn cynnwys ymrwymiad y Βι¶ΉΤΌΕΔ i dalwyr ffi'r drwydded ar gyfer yr holl wasanaethau a gyllidir yn gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.

Ymddiriedaeth yw'r prif werth sydd gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ ac ni allwn danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Byddwn yn cynnal perthynas gonest ac agored gyda'n cynulleidfaoedd ac ni fyddwn yn eu camarwain yn fwriadol.

Pan fydd y cyhoedd yn ymgysylltu gyda ni drwy ryngweithio fe gΓΆnt eu trin ΓΆ pharch, gonestrwydd a thegwch. Byddwn yn delio gyda phob cystadleuaeth ryngweithiol a phleidleisiau gyda gofal manwl a chywirdeb.

Ni chaiff pleidleisiau a chystadlaethau'r Βι¶ΉΤΌΕΔ eu cynnal er mwyn gwneud elw. Yr unig amser fydd cystadlaethau'r Βι¶ΉΤΌΕΔ neu bleidleisiau yn cael eu hamcanu er codi arian fydd ar gyfer un o ymgyrchoedd elusennol y Βι¶ΉΤΌΕΔ.

Egwyddorion ar gyfer cystadlaethau rhyngweithiol a phleidleisiau

Mae'r egwyddorion allweddol yma yn gymwys ar gyfer pleidleisiau a chystadlaethau'r Βι¶ΉΤΌΕΔ sy'n ymgorffori gwylwyr, gwrandawyr a'r gynulleidfa ar-lein. Maent yn gymwys i elfennau rhyngweithio gynhelir dros y ffΓ΄n, negeseuon testun, defnyddio'r botwm coch, drwy'r post neu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol arall.

Mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn ymrwymo bod

  • cystadlaethau a phleidleisiau yn cael eu cynnal mewn modd sy'n onest, agored, teg a chyfreithiol
  • enillwyr cystadlaethau a phleidleisiau yn ddilys a byth wedi eu dyfeisio, wedi eu dewis o flaen llaw neu wedi eu trefnu gan y tΓ®m cynhyrchu. Dylai pob cynnig fod ΓΆ chyfle teg i ennill
  • ni fyddwn byth yn gofyn i rywun ymddangos fel ymgeisydd cystadleuaeth neu enillydd
  • gwobrau yn cael eu disgrifio'n gywir. Ni fyddwn yn camarwain cystadleuwyr am natur y wobr a bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobrau o fewn amser rhesymol
  • rheolau eglur sydd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer unrhyw gystadleuaeth neu bleidlais.

Pa bwysau bynnag sydd i gadw'r sioe ar yr awyr, ni ddylai'r Βι¶ΉΤΌΕΔ fyth gyfaddawdu ei gywirdeb golygyddol.

Os aiff rhywbeth o'i le wrth gynnal cystadleuaeth neu bleidlais ni fyddwn yn ceisio cuddio hynny neu'n rhoi canlyniad ffug.

Y Defnydd o Wasanaethau FfΓ΄n Cyfraddau Premiwm

Mae maint yr ymateb tebygol i rai cystadlaethau neu bleidleisiau yn golygu efallai mai llinellau cyfradd premiwm yw'r mwyaf addas i ddelio gyda nifer fawr o alwadau.

Byddwn yn nodi ar yr awyr mor eglur ΓΆ phosib faint mae'r galwadau yn eu costio ac yn defnyddio'r tariff isaf posib, heblaw ein bod yn fwriadol yn codi arian ar gyfer ymgyrch elusennol gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Byddwn yn rhoi gwybod i'r gynulleidfa pan fo llinellau cystadlaethau neu bleidleisiau yn agor a chau.

Ar gyfer yr holl gystadlaethau neu bleidleisiau cyfraddau ffΓ΄n byddwn yn cydymffurfio gyda chod ymddygiad a gyhoeddir gan y rheolydd annibynnol PhonepayPlus (adnabuwyd gynt fel ICSTIS).

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.