Main content

Kate Crockett

Cafodd Kate ei geni yn Aberdâr a'i magu yng Nghaerdydd, Ceredigion a Merthyr Tudful. Ar ôl graddio o Brifysgol Cymru Aberystwyth mae wedi cael gyrfa amrywiol fel newyddiadurwraig, gan ddechrau ar y cylchgrawn Golwg. Bu'n cyflwyno nifer o raglenni radio a theledu gan gynnwys Hacio, Y Byd ar Bedwar, Taro 9, Manylu, Stiwdio a'r Silff Lyfrau. Mae Kate wedi bod yn cyflwyno'r Post Cyntaf ers mis Ionawr 2013. Cyrhaeddodd ei llyfr Mwy na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas (2014) Restr Fer Llyfr y Flwyddyn yn 2015.