Main content

Dewr

Tara Bethan yn sgwrsio ag ambell wyneb cyfarwydd am heriau bywyd, a’r ffordd mae’r creadigrwydd yn gallu helpu.

Yn 2020 fe gychwynnodd Tara Bethan ar daith i ddysgu am sut mae’r creadigrwydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau mewn cyfnodau heriol a hapus. Yn ei chartref newydd ar Â鶹ԼÅÄ Sounds mae’r sgyrsiau yn parhau, a chawn gyfarfod mwy o wynebau cyfarwydd Cymru i glywed am y pethau sy’n eu cynnal nhw. Ar hyd y ffordd cawn glywed am brofiadau yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles yn cael eu trafod mewn ffordd agored a gonest. Mae’r podlediad yma’n cynnwys iaith gref.